Y Brifysgol yn agor g芒t y fferm yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes, Abergwyngregyn
Oni fyddai鈥檔 syniad da pe bai modd inni dyfu ein tomatos ein hunain yn yr awyr agored? Ac a fyddai modd defnyddio peth o鈥檙 compost a gynhyrchir gan gynghorau er mwyn tyfu tatws? Dewch draw i weld sut y defnyddir cennin Pedr i drin Clefyd Alzheimer a dysgu pam nad yw gwenyn yn pigo bob tro. Dysgwch sut y mae gwyddonwyr a phobwyr yn gweithio ar y cyd i ddatblygu 鈥榖wyd swyddogaethol鈥 gan ddefnyddio rhywogaeth o haidd sy鈥檔 faethlon a blasus iawn.
Cewch ateb i hwn ac i gwestiynau eraill yn ystod ymweliad 芒 Chanolfan Ymchwil Amaethyddol y Brifysgol yn Henfaes, Abergwyngregyn, rhwng 2.00pm a 4.30pm ddydd Iau 12 Mehefin. Dyma un o weithgareddau鈥檙 Brifysgol a gynhelir ar gyfer Wythnos y Prifysgolion, ar 9-15 Mehefin, pryd y bydd prifysgolion ar draws y DU yn codi ymwybyddiaeth yngl欧n 芒鈥檙 modd y mae ymchwil mewn prifysgolion yn effeithio ar ein bywydau ni i gyd.
Bydd yr Y a鈥檌 phartneriaid yng yn Abergwyngregyn yn agor 鈥榞芒t y fferm鈥 i ymwelwyr ar gyfer y prynhawn. Mae鈥檙 Ganolfan Ymchwil yn meddu ar dir, yn amrywio o lefel y m么r hyd at y Carneddau, fel ei fod yn lle delfrydol i wneud ymchwil sy鈥檔 berthnasol i amaethyddiaeth a ffermio yng Nghymru ac i amgylchedd Cymru.
Meddai鈥檙 Athro M.A. McDonald, Pennaeth yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, 鈥淩wy鈥檔 credu y byddai pobl yn synnu yngl欧n 芒鈥檙 amrywiaeth eang o ymchwil a wneir yng Nghanolfan Ymchwil Henfaes 鈥 oherwydd ei hehangder a hefyd am ei bod wedi cael effaith wirioneddol ar amaethyddiaeth yng Nghymru (a yw hyn yn wir?) yn ystod y degawdau.
Rydym bob amser yn falch o weithio gyda鈥檙 gymuned amaethyddol yng Nghymru, ac yn croesawu鈥檙 cyfle i wahodd aelodau o鈥檙 cyhoedd i ddod draw i ymweld 芒鈥檙 Ganolfan Ymchwil.鈥
Yn ystod y blynyddoedd a fu, mae鈥檙 Ganolfan wedi cyfrannu at ymchwil bwysig, gan ddangos yr effeithiau cadarnhaol a all ddeillio o amrywio ffarmio wrth gyfuno amaethyddiaeth 芒 choedwigaeth. Gall coedamaeth ddarparu lloches i anifeiliaid, lleihau defnydd ar wrtaith heb i hynny amharu ar ansawdd porthiant, cynyddu ymdreiddiad d诺r gan leihau鈥檙 posibilrwydd o lifogydd, ac ynysu carbon mewn haenau dwfn o bridd.
Am fwy o fanylion, cysylltwch 芒 Chanolfan Ymchwil Henfaes ar 01248 382281, e-bost: alison.evans@bangor.ac.uk.
Bydd y Prynhawn Agored yn cynnwys teithiau byr, hygyrch, arddangosfeydd dan do a lluniaeth ysgafn.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2014