Wystrys yw eu byd- ac maent esio i chwi eu bwyta
Mae arbenigwyr mewn dyframaethu ym Mhrifysgol Bangor yn gobeithio gwneud newid sylfaenol yn y ffordd mae wystrys yn cael eu hystyried a鈥檜 bwyta, yn dilyn rhyngwladol ar Wystrys a gynhelir yn y brifysgol (11-14 Medi). Maent yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn annog cynnydd cyflym, ond cynaliadwy, mewn cynhyrchu wystrys, ac i fwy ohonom eu mwynhau gartref ac mewn barrau wystrys yng Nghymru a mannau eraill.
Mae denu鈥檙 gynhadledd o鈥檙 prif gynhyrchwyr ac arbenigwyr ar wystrys i Fangor yn llwyddiant ynddo'i hun, yn 么l y trefnydd, Dr Jon King o Ysgol Gwyddorai Eigion y Brifysgol, ac yn gydnabyddiaeth o鈥檙 arbenigedd dyframaethu sydd yn y brifysgol, ac o lewyrch rhyngwladol y diwydiant cregyn gleision lleol. Mae鈥檙 gynhadledd fel rheol yn cael ei chynnal ym mhrif ranbarthau cynhyrchu wystrys y byd, ac wedi ei chynnal yn Tokyo, Japan; Hangzhou Tsieina; Taipei, Taiwan; Hobart, Awstralia; Dinas Ho Chi Minh, Fietnam a Cape Cod, UDA.
Un o brif amcanion y Symposiwm yma yw newid meddylfryd pobl am ynghylch bwyta wystrys a chynhyrchu wystrys, er mwyn annog a galluogi mwy o bobol i fwyta鈥檙 bwyd maethlon a chynaliadwy.
Er yn ddanteithfwyd sydd yn draddodiadol yn cael ei ystyried yn well wedi ei fwyta鈥檔 amrwd, bydd ffocws y Symposium hwn ar goginio gydag wystrys. Un gwaddol yr hoffai鈥檙 Symposiwm ei adael yw llyfr rys谩it a fyddai鈥檔 rhoi amlygrwydd i鈥檙 ffyrdd gwahanol mae wystrys yn cael eu trin a鈥檜 coginio yn y gwahanol ranbarthau cynhyrchu wystrys y byd, yn ogystal 芒 bod yn werthfawrogiad o fwyd sydd wedi ei fwyta ers datblygiad dynoliaeth fodern. Bydd y trefnwyr yn hel ryseitiau gan y cyfranwyr rhyngwladol fydd yn dod i鈥檙 Symposiwm.
Fel yr esbonia Dr Jon King:
鈥淏yddai datblygu marchnad fwy eang ar gyfer wystrys wedi eu coginio neu ar gyfer y pot, yn ymestyn ystod fasnachol ar gyfer cynhyrchwyr, yn ddaearyddol ac o ran 鈥榖ywyd-silff鈥 unrhyw gynnyrch, gan ychwanegu gwerth at fwydydd sylfaenol.鈥
鈥淩ydym hefyd yn edrych ar dwf cynaliadwy cynhyrchu wystrys yn fyd-eang. Yr hyn yr olygwn wrth gynaliadwy, yw nid yn unig yn gynaliadwy鈥檔 amgylcheddol, ond yn gynaliadwy o ran economeg i鈥檙 cynhyrchwyr, proseswyr a鈥檙 defnyddwyr, ac yn gynaliadwy yn gymdeithasol ar gyfer y lleoliadau hynny lle mae cynhyrchu wystrys yn digwydd.鈥
Gan fabwysiadu ac addasu terminoleg y fasnach win, mae鈥檙 cynhyrchwyr a chogyddion yn s么n yn gynyddol am 鈥merroir- eu haddasiad m么r o 鈥terroir鈥, term a ddefnyddir i ddisgrifio blas y grawnwin a ddaw o鈥檙 pridd lle y tyfwyd hwy, neu yn achos wystrys, y d诺r heli penodol lle y tyfodd.
Bydd yr unigolion sy鈥檔 arwain barn, y gwyddonwyr, cynhyrchwyr, masnachwyr a phroseswyr, a chwsmeriaid fydd yn dod i鈥檙 Symposium yn cael cyfle i werthfawrogi鈥檙 鈥merroir鈥 hyn mewn bar wystrys amrwd, a fydd yn brolio wystrys o nifer o leoliadau o Brydain gan gynnwys y Fenai.
Mae dwy ddarlith gyhoeddus hefyd ynghlwm 芒鈥檙 Symposiwm. Mae鈥檙 gyntaf, yng Nghanolfan Pontio ddydd Mawrth 12 Medi am 17:00 gan yr Athro Michael Crawford, a fydd yn trafod The role of sea foods in reversing the global crisis in mental ill-health. Yr Athro Crawford o Goleg Imperial, Llundain yw awdur Nutrition and Evolution a llywydd Cymdeithas McCarrison.
"A dreadful but exciting life, full of stress, passion and danger" yw pwnc yr ail ddarlith, sef Darlith Coffa Dennis Crisp, ac fe鈥檌 traddodir gan yr Athro Brian Bayne am 5pm dydd Mercher 13 Medi yng Nghanolfan Pontio. Bydd yr Athro Bayne yn trafod y straen ffisiolegol mewn wystrys, pwnc perthnasol iawn i ffermwyr wystrys oherwydd y cynnydd mewn tymheredd y m么r a phethau eraill a achoswyd gan ddyn sydd yn peri straen i鈥檙 wystrys. Mae鈥檙 Athro Bayne wedi gwneud cyfraniad oes i helaethu ein dealltwriaeth o gregyn m么r.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2017