Troi sbwriel yn arian parod: lladd dau aderyn ag un ergyd ym Mangladesh
Gellir defnyddio gwastraff trefol i ddarparu ffynhonnell werthfawr o faetholion ar gyfer priddoedd ffermio'n ddwys ym Mangladesh, gyda'r effaith o wella amaethyddiaeth a chynyddu cnydau, a chael gwared ar ddeunyddiau gwastraff budr o strydoedd y ddinas.
Gan gydweithio gydag ysgolheigion ym Mhrifysgol Amaethyddol Bangladesh, mae darlithwyr Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Prifysgol Bangor wedi dangos i ffermwyr sut y gellir casglu gwastraff trefol a'i ddefnyddio i ddatrys dwy broblem amgylcheddol ddifrifol sy'n wynebu Bangladesh, ac yn wir llawer o wledydd eraill sy'n datblygu.
Yn ninasoedd Bangladesh, ceir gwared ar wastraff trefol yn y strydoedd, yn aml, fel sy'n gyffredin mewn llawer o wledydd eraill sy'n datblygu. Ar ôl i’r cyngor ei gasglu, caiff ei roi’n aml mewn safleoedd tomenni budr agored a hyll ar ymylon ffyrdd ar gyrion y ddinas. Yn y cyfamser, mewn ardaloedd gwledig, mae cynhyrchiant amaethyddol yn dioddef oherwydd cynhyrchu cnydau reis dwys mewn ymgyrch i fwydo’r wlad boblog. O ganlyniad i hyn ceir dirywiad difrifol mewn mater organig yn y pridd. Mae ffermwyr yn ceisio gwella’r pridd drwy ddefnyddio llawer o wrtaith i gynnal cynnyrch, ond nid yw’r planhigion yn defnyddio’r gwrtaith ac mae’n dianc i'r amgylchedd, gan achosi llygredd a cholli maetholion gwerthfawr.
Dywedodd Dr Rob Brook, a arweiniodd y project tair blynedd a ariannwyd gan y Cyngor Prydeinig: "Nod y project oedd ‘lladd dau aderyn ag un ergyd’ drwy gasglu gwastraff cegin cartref a’i drawsnewid yn gompost i ffermwyr ei ddefnyddio. Byddai hyn yn adnodd iddynt yn lle defnyddio’r gwrtaith a ddefnyddir ar hyn o bryd. Byddai hyn yn lleihau'r problemau sy'n gysylltiedig â gwastraff a'i droi'n adnodd gwerthfawr ar gyfer ffermwyr."
Ychwanegodd Dr Paula Roberts: "Yn ystod y gweithdy olaf, buom yn ymweld ag arddangosiadau o weithrediadau compostio llwyddiannus ac yn gweld y manteision o ychwanegu compost at gnydau, a hyd yn oed sut y gall generadur trydan weithio gyda methan a ddaw o’r gwastraff trefol solet. Gwelsom y canlyniadau gorau lle'r oedd compost yn cael ei ddefnyddio ar y cyd efo hanner y gwrtaith yn hytrach na defnyddio compost yn unig."
Mae'r Cyngor Prydeinig yn ystyried y project yn llwyddiant mawr, gan ei fod wedi dangos sut y gall ymchwil gael ei ddefnyddio i helpu datrys materion o bwys mewn gwledydd sy'n datblygu.
Dywedodd Dr Prysor Williams: "yn anad dim, roedd gweld ffermwyr tlawd iawn mor hapus i ddefnyddio'r compost yn rhoi llawer o foddhad, ac roedd y manteision yn amlwg dros fwy nag un tymor, yn wahanol i wrteithiau cemegol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ysgogi projectau tebyg ym Mangladesh i gynyddu manteision economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol a ddatgelwyd yn y project hwn ".
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2012