Trafod effeithiau toddi rhew鈥檙 m么r Arctig ar yr hinsawdd
Wrth i鈥檙 rhew ym M么r yr Arctig yn cyrraedd y lefel isaf a gofnodwyd dros dri degawd, bydd eigionegwyr ffisegol o Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol, Dr Tom Rippeth a Ben Lincoln yn ymuno 芒 gwyddonwyr y pegynau o Brifysgol Caergrawnt a Choleg Prifysgol Llundain, i drafod goblygiadau diflaniad rhew鈥檙 m么r ar raglen 鈥樷 Radio Wales nos Fawrth 18.9.12 am 7.00 pm.
Fel eigionegwr ffisegol, mae Dr Rippeth yn astudio cefnforoedd y byd a'u heffeithiau ar yr hinsawdd. Mae Ben Lincoln newydd ddychwelyd o'r Arctig - lle mae wedi bod ar fordaith ymchwil ar long sy鈥檔 torri trwy鈥檙 rhew oddi ar Ganada. Bu鈥檔 edrych ar y prosesau sy'n gyfrifol am gymysgu dyfroedd cynnes y M么r Tawel a鈥檙 Iwerydd gyda d诺r oer yr Arctig yn nyfroedd y Cefnfor Arctig i'r gogledd o Ganada.
Disgrifia Ben Lincoln ei brofiad ar fwrdd y llong:
"Ymunais 芒 mordaith ymchwil sydd wedi dilyn yr un llwybr bob mis Awst dros y 10 mlynedd diwethaf. Roedd y profiad eleni yn wahanol iawn i fy mhrofiad yn yr Arctig yn 2008. Pryd hynny, 鈥榬wy鈥檔 cofio s诺n byddarol wrth i鈥檙 llong aredig drwy'r rhew drwy鈥檙 rhan fwyaf o'r fordaith. O'r pedair wythnos ar y m么r y tro hwn, b没m yn y rhew am ond ychydig ddyddiau mewn gwirionedd, a hyd yn oed wedyn roedd yn rhaid gwyro oddi ar y cwrs arferol i deithio i 81 gradd gogledd i ddod o hyd i faint sylweddol o rew - a hynny dim ond tua 600 milltir o Begwn y Gogledd. "
" Gan eu bod wedi gwneud y daith nifer o weithiau o鈥檙 blaen, roedd fy nghydweithwyr yn amlwg wedi eu syfrdanu cyn lleied o rew oedd yno. Roedd un hyd yn oed yn ei ddisgrifio fel colli hen gyfaill. Mae'n amlwg bod cyflymder y newid yn yr Arctig yr ydym wedi ei weld yn ystod yr haf eleni wedi bod yn sioc hyd yn oed i鈥檙 gwyddonwyr pegynol profiadol! "
Esbonia Dr Tom Rippeth arwyddoc芒d y lleihad:
鈥淓rs ychydig flynyddoedd, rydym wedi gweld lleihad mawr ym maint y rhew m么r sy鈥檔 arnofio ar F么r yr Arctig yn ystod yr haf. Mae鈥檙 lleihad yn arbennig o amlwg ar ddiwedd yr haf ym mhegwn y gogledd, pryd y mae arwynebedd y rhew m么r yn cyrraedd ei isafbwynt blynyddol. Mae鈥檙 lleiafswm a gofnodwyd eleni wedi torri鈥檙 record a osodwyd yn 2007, efo arwynebedd y rhew m么r ryw 20% yn llai nag ym mis Medi 2007.鈥
鈥淢ae鈥檙 rhew m么r yn chwarae rhan bwysig iawn yn yr hinsawdd, am ei fod, i bob pwrpas, yn gweithredu fel drych, gan adlewyrchu pelydrau鈥檙 haul yn 么l i鈥檙 gofod. Mae hefyd yn gweithredu fel cap, yn insiwleiddio M么r yr Arctig rhag yr atmosffer, sydd yn llawer oerach. Yn absenoldeb rhew, mae pelydrau鈥檙 haul yn cynhesu鈥檙 d诺r, a鈥檙 d诺r cynnes yn gwresogi鈥檙 atmosffer uwchben. Mae鈥檙 cylch yn cyflymu鈥檙 toddi yn ystod yr haf.鈥
"Erbyn hyn mae tystiolaeth gynyddol i awgrymu bod newid yn y cydbwysedd yn yr hinsawdd, a bod hyn yn cael ei yrru gan yr holl wresogi ychwanegol yn yr Arctig, ac y gallai鈥檙 newid fod yn rhannol gyfrifol am y nifer cynyddol o ddigwyddiadau tywydd eithafol gafwyd yn y blynyddoedd diweddar. Gall enghreifftiau o'r fath gynnwys yr haf hwn, sef y gwlypaf ers dros 100 mlynedd yma yn y DU, tra ar yr un pryd, mae sawl rhanbarth o'r Unol Daleithiau wedi cael eu taro gan sychder difrifol a gwres eithafol. "
鈥淓r y gellir, ar yr olwg gyntaf, ddehongli鈥檙 gyfres ddiweddar o aeafoedd oer fel rhywbeth sy鈥檔 anghyson 芒鈥檙 syniad o blaned yn cynhesu, ymddangosant, mewn gwirionedd, fel pe baent yn deillio o gynhesu byd-eang. Mae hefyd dystiolaeth i gysylltu'r tywydd eithafol 芒'r lleihad yn arwynebedd y rhew m么r yn yr Arctig yn ystod yr haf."
Mae'r t卯m o Fangor yn gweithio gydag academyddion o Brifysgolion Rhydychen, Southampton a Reading, Coleg Prifysgol Llundain, y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, Arolwg Antarctig Prydain a Chymdeithas Gwyddor Forol yr Alban ar grant ymchwil gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol i wella dealltwriaeth o effeithiau tebygol cefnfor Arctig di-rew.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Medi 2012