Taith ymchwil 鈥榰nwaith mewn bywyd鈥 i鈥檙 fforestydd glaw
Chwe diwrnod ar 么l iddo briodi, roedd y darlithydd Simon Willcock yn pacio鈥檌 fagiau ac yn gadael ei wraig am daith 鈥榰nwaith mewn bywyd鈥 i 鈥榝yd coll鈥, sef fforest law ddiarffordd ar ben allfrigiad o
greigiau folcanig ym Mozambique.
Ag yntau bellach yn ddarlithydd Daearyddiaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, ers cyfnod ei Ddoethuriaeth mae Simon wedi gweithio gyda rhwydwaith o wyddonwyr blaenllaw sydd yn ymddiddori mewn, ymysg pethau eraill, fforestydd glaw pellennig di-ymyrryd.
Canfod rhywogaethau newydd sydd efallai wedi esblygu鈥檔 wahanol oherwydd eu lleoliad di-gyffwrdd ydi diddordeb rhai aelodau o鈥檙 t卯m, ond cyfraniad Simon yw astudio鈥檙 carbon sydd wedi ei storio mewn fforest glaw sydd wedi profi y nesaf peth i ddim ymyrraeth, i astudio drwy brofi鈥檙 pridd sut y mae newid hinsawdd yn effeithio鈥檙 fforest.
Fel yr esbonia Simon:
鈥淩wy鈥檔 ymddiddori yng ngwasanaethau鈥檙 ecosystem, y pethau hynny y mae natur yn ei gyfrannu na ddylem eu cymryd yn ganiataol; er enghraifft, mae symiau enfawr o garbon wedi eu storio ym mhriddoedd fforestydd. Pe byddai鈥檙 fforestydd yn cael eu clirio, yna byddai鈥檙 carbon yma yn cael ei ryddhau i鈥檙 atmosffer fel carbon deuocsid, gan gyfrannu ymhellach at newid hinsawdd.
Hyd yn oed wrth archwilio yr hyn yr ydym yn eu tybio i fod yn fforestydd glaw cynhenid, rydym weithiau鈥檔 dod ar draws pantiau a rhigolau, sydd yn dangos bod y tir wedi cael ei ffermio ar un adeg ond wedi troi鈥檔 goedwig drachefn. Mae hynny鈥檔 effeithio ar ein hamcangyfrif o鈥檙 newidiadau sydd oherwydd adferiad o鈥檙 ymyrraeth hanesyddol a pha rai sydd wedi eu achosi gan newid hinsawdd. Mae fforest sydd wedi ei hynysu fel Mount Lico yn cynnig cyfle unigryw i astudio sut y mae newidiadau hinsawdd yn y gorffennol wedi effeithio ar fforestydd trofannol.鈥
Un o dasgau Simon oedd i dyllu drwy鈥檙 pridd a chasglu samplau er mwyn eu dadansoddi maes o law.
Dywedodd:
鈥淢i fyddech chi鈥檔 disgwyl i鈥檙 pridd ar ben allfrigiad creigiau i fod yn denau, ond roedd yr hyn a welsom y tu hwnt i鈥檔 disgwyliadau. Roedd y pridd mor ddwfn fel ein bod wedi tyllu i lawr dwy fetr a defnyddio鈥檙 tuniau samplau i gyd cyn cyrraedd gwely鈥檙 graig.鈥
Bydd Simon a chydweithwyr eraill r诺an yn dadansoddi鈥檙 samplau pridd er mwyn datgelu nid yn unig oed y deunydd dadelfennol yng ngwneuthuriad y pridd, ond hefyd y lefelau carbon ar ddyfnderau pridd gwahanol. Drwy astudio鈥檙 paill a鈥檙 golosg sydd hefyd yn bresennol ym mhroffil y pridd, bydd yr ymchwilwyr yn medru cael cip ar ddigwyddiadau allweddol yng ngorffennol Mount Lico 鈥 Ers pa hyd y mae鈥檙 fforest wedi bod yno? Sut y mae newidiadau i鈥檙 hinsawdd wedi effeithio ar y fforest? Bydd yr ymchwil yn fodd o ateb rhai o鈥檙 cwestiynau hyn a llawer mwy.
Meddai Simon wrth edrych yn 么l ar y daith:
鈥淩oedd yn fraint ac yn brofiad unigryw a darostyngedig.鈥
Roedd y fforest yn ymdebygu i hen gadeirlan neu fan gysegredig, gyda鈥檙 boncyffion coed fel colofnau a鈥檜 canopi fel to Eglwys cromennog.
鈥淩oedd llai o adar nag y oeddem yn ei ddisgwyl, felly roedd y lle鈥檔 dawel ac roedd na ysblander yno nad ydych yn ei weld un yr un man arall,鈥 meddai.
Cafodd y gwyddonwyr gymorth dau ddringwr a chriw cwmni ffilm, felly cadwch lygad am y rhaglen ddogfen sydd yn si诺r o ymddangos maes o law!
A beth am Simon? Mae yntau a鈥檌 wraig am fwynhau Mis M锚l hwyr yn Affrica fis Awst.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2018