Sut gall eich dewis chi o ddiod bach yn y pnawn helpu i achub coedwigoedd law
Dyma'r adeg o'r flwyddyn i gael 'gin a tonic' oer gyda rhew yn y prynhawn. Efallai ein bod yn cwestiynu effaith gormod ohonynt ar ein hiechyd, ond beth yw 么l-troed amgylcheddol yr aperitif blasus a chlasurol hwn? Ymunodd t卯m rhyngwladol o ymchwilwyr gyda rheolwr distyllfa arloesol i ateb y cwestiwn hwn mewn .
Mae'r broses o gynhyrchu gin yn cynnwys nifer o gamau. Yn gyntaf, mae tyfu gwenith yn cynnwys aredig a defnyddio cynnyrch amaethyddol fel gwrtaith nitrogen synthetig. Yn ail, ar 么l eu cynhaeafu, glanhau'r hadau a'u cludo, mae'r cyfnod eplesu a distyllu sy'n cynnwys melino, ychwanegu ensymau a gwresogi. Yn olaf, rhaid pecynnu'r gin o wahanol flas mewn poteli a blychau i'w dosbarthu i ddefnyddwyr. Cyfrifwyd bod cost yr holl gamau hyn o ran nwyon t欧 gwydr cyfwerth 芒 2.3 kg CO2 fesul 70 potel o gin, neu gyfwerth 芒 0.16 kg CO2 fesul mesur mawr (50 ml). 鈥淥 ran effaith amlwg newid yn yr hinsawdd, mae sipio dwy uned o gin yn debyg i yfed glasiad bach (150 ml) o laeth, neu yrru am un km mewn car petrol鈥, meddai Theophile Lienhardt, awdur arweiniol yr astudiaeth.
Ond, beth pe bai'r gin hwnnw wedi cael ei wneud o bys? yn yr Alban wedi cynnal treialon lle mae cnewyll pys wedi'u sychu a'u diblisgo (Pisum sativum L.) yn cael eu malu a'u heplesu yn lle mwtrin grawn gwenith.
Meddai Kirsty Black, rheolwr Distyllfa Arbikie, er mwyn tawelu meddyliau connoisseurs gin: 鈥淎r 么l dau ddistylliad i gynhyrchu gwirod sylfaenol niwtral, gellir defnyddio dau blanhigyn botaneg yn cynnwys y ferywen a coriander i gynhyrchu鈥檙 gin terfynol sy'n cadw'r un blas hyfryd, aromatig 芒 gin a wnaed o wirod grawn.鈥
Roedd yr astudiaeth yn rhan o'r project a gynhaliwyd ar draws Ewrop 鈥溾 dan arweiniad Dr Pietro Iannetta, agroecolegydd yn Athrofa James Hutton. 鈥淕welwyd bod 么l troed amgylcheddol gin pys yn sylweddol is na gin gwenith ar draws 12 o'r 14 effaith amgylcheddol a werthuswyd, yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, llygredd d诺r ac aer, a defnyddio ynni ffosil鈥, meddai Dr Iannetta.
Eglurodd yr Athro Mike Williams o Goleg y Drindod Dulyn, 鈥淢ae pys yn sefydlogi nitrogen o'r atmosffer, ac felly nid oes angen defnyddio gwrteithiau nitrogen synthetig sy'n achosi llygredd. Hefyd, mae plisg pys a chydgynhyrchion distyllfeydd yn darparu bwydydd anifeiliaid sy'n llawn protein ac yn gallu cymryd lle ffa soia sy'n cael eu mewnforio o Dde America, lle mae tyfu ffa soia yn arwain at datgoedwigo.鈥
Mae'r cydgynhyrchion o un litr o gin pys yn cymryd lle hyd at 0.66 kg o borthiant anifeiliaid ffa soia, ddwywaith gymaint ag o gin gwenith, a gall helpu i leihau dibyniaeth uchel Ewrop ar brotein wedi'i fewnforio. Yn rhyfeddol, gall osgoi allyriadau nwyon t欧 gwydr trwy dyfu rhywbeth yn lle ffa soia, datgoedwigo, prosesu a thrafnidiaeth fod yn fwy na'r allyriadau nwyon t欧 gwydr sy'n deillio o gynhyrchu'r gin pys ei hun, gan wneud y gin o bys yn garbon niwtral.
鈥淲rth gwrs, pe baem ni eisiau lleihau'n sylweddol ein h么l troed amgylcheddol a lleihau datgoedwigo, gallem fwyta'r pys hynny'n uniongyrchol i gael ein gofynion protein a ffibr, yn hytrach nag yfed gin a bwyta cig eidion sy'n cael eu bwydo ar y cydgynhyrchion鈥, rhybuddiodd Dr David Styles, darlithydd mewn asesu cylch bywyd ym Mhrifysgol Bangor ac NUI Galway. Serch hynny, ar gyfer yr adegau hynny yn cymdeithasu a sipian gin a tonig blasus, mae Arbikie Distillery yn gweithio i sicrhau nad oes angen i wydryn bach cyfrifol gostio'r ddaear, yn llythrennol. 鈥
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2019