Steve Backshall yn arwain ei ddarlith gyntaf ym Mhrifysgol Bangor
Cynhaliwyd darlith gyntaf y cyflwynydd teledu a'r fforiwr, Steve Backshall, fel rhan o dîm addysgu Prifysgol Bangor yr wythnos hon.
Rhannodd yr arbenigwr bywyd gwyllt, sy'n enwog am raglenni fel Deadly 60, Expedition a Blue Planet Live, ei brofiadau gyda myfyrwyr yn y drydedd flwyddyn o'r Ysgol y Gwyddorau Naturiol (Bioleg, Swoleg, Cadwraeth, Coedwigaeth a Daearyddiaeth) a'r Ysgol Gwyddorau Eigion ar y modiwl Gwyddoniaeth a Sgiliau Cyflogadwyedd.
Oherwydd cyfyngiadau Covid a chan ei fod mewn cwarantin yn dilyn ei alldaith ddiweddaraf i Rwsia cafodd y ddarlith ei chynnal arlein, ond roedd y fforiwr yn pwysleisio'n arw ei obaith i fedru darlithio ar y campws yn ninas Bangor unwaith roedd y cyfyngiadau'n dod i ben.
Yn ystod y ddarlith, esboniodd Steve ragor am ei yrfa o 20 mlynedd a mwy yng nghyfryngau byd natur a chadwraeth, gan gynnig mewnwelediad i'r gwersi y mae wedi eu dysgu ar hyd y ffordd yn ogystal â siarad drwy ychydig o'r clipiau tu-ôl-i'r-llenni o'i deithiau amrywiol i lefydd fel Bhutan, Borneo ac Alaska.
Meddai Steve, "Fel plentyn, dwi'n cofio cael fy siomi'n arw wrth feddwl fod pobman wedi cael ei ddarganfod yn barod. Mae'n troi allan 'mod i'n anghywir - mae yna bellteroedd sydd heb eu archwilio'n gyfangwbl. Byddwn wrth fy modd yn meddwl y gall un ohonoch chi fod yn rhan o'n genhedlaeth newydd sy'n darganfod y llefydd anhygoel 'ma. Dydw i ddim yn un am ddifaru rhyw lawer, ond dwi YN difaru peidio astudio ym Mangor, a phob tro dwi'n dod draw i'ch milltir sgwâr chi, dwi'n dweud wrth fy hun: am le arbennig i astudio bywyd gwyllt!"
Atebodd Steve bob math o gwestiynau gan fyfyrwyr, o sut i ddilyn gyrfa mewn ffilmio rhaglenni dogfen am fyd natur i gyngor ar ariannu ymchwil a grym y cyfryngau i newid agweddau tuag at faterion fel datgoedwigo a newid hinsawdd.
Yn dilyn y ddarlith, dywedodd Toby Carter, myfyriwr Cadwraeth Amgylcheddol, "Mae'n beth eithaf mawr cael rhywun fel Steve Backshall, gyda'i holl brofiad o weithio ar raglenni ar gyfer BBC, SKY a PSB yn dod arlein i siarad yn uniongyrchol gyda ni, ac yn cynnig pob math o gyngor ymarferol ar ddilyn gyrfa yn y maes. Mae wir yn ysbrydoliaeth, a 'dw i eisoes yn edrych ymlaen at y nesa' sydd am edrych yn benodol ar yrfau ym maes bywyd gwyllt a gwarchodaeth!"
Ychwanegodd Stevie Scanlan o Goleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pherianneg, "Yr hyn gafodd ei gyfleu'n hollol glir oedd angerdd Steve am y maes, a'r cyfeillgarwch sy'n cael ei greu wrth ffilmio'r cynhyrchiadau. Dwi'n siwr y bydd ei ffordd arbennig o ddisgrifo'r profiad o ddarganfod y gwyllt a phrofi rhywbeth tu hwnt i'r cyffredin sydd dal yn gyntefig, yn ysbrydoli llawer ar fyfyrwyr sy'n dechrau eu gyrfa ym y gwyddorau amgylcheddol."
¶Ù¾±»å»å´Ç°ù»å±ð²ú&²Ô²ú²õ±è;³¾±ð·É²Ô&²Ô²ú²õ±è;²¹²õ³Ù³Ü»å¾±´Ç'°ù&²Ô²ú²õ±è;²µ·É²â»å»å´Ç°ù²¹³Ü&²Ô²ú²õ±è;²¹³¾²µ²â±ô³¦³ó±ð»å»å´Ç±ô&²Ô²ú²õ±è;²â³¾&²Ô²ú²õ±è;²Ñ²¹²Ô²µ´Ç°ù?&²Ô²ú²õ±è;¶Ù²¹°ù²µ²¹²Ô´Ú²â»å»å·É³¦³ó&²Ô²ú²õ±è;°ù²¹²µ´Ç°ù YMA
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2020