Staff ADNODD wrthi'n datblygu economi werdd
Mae staff (ADNODD) wrthi ar hyn o bryd yn ceisio datblygu'r economi werdd yng Nghymru ac Iwerddon. Mae'n adeg brysur i'r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd, grŵp sy'n cynnwys busnesau yng Nghymru a staff ADNODD, yn arbennig Heli Gittins a Nicola Owen sy'n rhoi o'u harbenigedd i gefnogi'r gwaith. Mae'r Rhwydwaith yn rhan o Broject ehangach sydd wedi ei gyllido gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac sy'n dod ag arbenigedd academaidd Prifysgol Bangor, University College Dulyn a'r Waterford Institute of Technology, Iwerddon at ei gilydd.
Nod yr economi werdd yw defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon, gwarchod natur a gwella cymunedau. Nod y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd yw annog a helpu cwmnïau i "wneud i'ch busnes dyfu'n wyrdd".
Mae'n adeg brysur i'r Rhwydwaith; mae chwe busnes o Gymru wedi dychwelyd o Iwerddon yn ddiweddar i ledaenu'r neges ynghylch sut mae cofleidio'r economi werdd wedi helpu eu busnesau. Hefyd mae'r ymweliad wedi helpu i ddangos y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Rhwydwaith, gan gynnwys cyngor a chefnogaeth, gwella sgiliau a chyfleoedd rhwydweithio i fusnesau.
Ar 20 Tachwedd bydd Prifysgol Bangor yn croesawu digwyddiad Hyrwyddo Economi Werdd yng Nghymru i hybu'r economi werdd yng ngogledd Cymru ac amlygu'r manteision i fusnesau a'r gymuned. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan Gynghrair yr Economi Werdd a'r Ymddiriedolaeth Economaidd Newydd, Mae Stuart Bond o'r Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd ym Mhrifysgol Bangor yn siwr bod "datblygu economi werdd yng Ngogledd Cymru'n gallu gyrru buddsoddiadau sylweddol gan fusnesau a chreu manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cynaliadwy".
Mae'r cysyniad o'r economi werdd hefyd yn un o nodweddion pwysicaf MBA Rheolaeth Amgylcheddol Prifysgol Bangor, sydd wedi ei gymeradwyo gan y Sefydliad Rheoli ac Asesu'r Amgylchedd. Amcan y rhaglen hon yw datblygu sgiliau cyflawni gweithgareddau economaidd sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd, technoleg werdd a chynaladwyedd.
Ceir mwy o wybodaeth am y Rhwydwaith Arloesi Gwyrdd yn
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2013