Seren teledu yn dychwelyd i ddarlithio yn ei hen ystafell ddosbarth
Dr Trevor Dines yw'r botanegydd selog sy'n ennyn brwdfrydedd y genedl am blanhigion gwyllt yn y gyfres newydd boblogaidd ar Sianel 4 'Wild Things'. Heddiw mae'n dod yn ol i'r brifysgol lle bu'n astudio i siarad â chenhedlaeth newydd o fyfyrwyr.
Graddiodd Trefor ym maes gwyddor planhigion ym yn 1987 ac aeth yn ei flaen i astudio ar gyfer PhD yma. Heddiw mae'n darlithio i fyfyrwyr yr ail flwyddyn sy'n astudio Ymarfer Cadwraeth ac yn cyflwyno astudiaeth achos iddynt fydd yn ymwneud â her llwyddo ym maes cadwraeth yn y byd go iawn. Teitl ei sgwrs yw ‘Muddy and downtrodden; the secret to success for a water-buttercup’.
Pan glywodd y byddai'n darlithio yn ystafell F27 yn adeilad Thoday, aeth yn deimladwy iawn wrth gofio am ei gyfnod yn fyfyriwr israddedig yn y ddarlithfa honno.
Mae'r gyfres gyntaf o Wild Things newydd orffen; ond mae'n bosib gwylio'r rhaglenni ar .
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2013