RNLI yng Nghymru yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor i lansio ymgyrch newydd
Gydag ansicrwydd ynglÅ·n â gwyliau tramor a theithio rhyngwladol, mae'r RNLI yn rhagweld mai'r haf hwn fydd y prysuraf erioed ar arfordir Cymru, wrth i gyfyngiadau Covid gael eu lleddfu a phobl yn dewis cymryd gwyliau gartref, ac mae wedi troi at Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor am gymorth.
Mae'r elusen achub bywyd a Gwylwyr y Glannau EM yn lansio'r ymgyrch ddiogelwch cyn penwythnos Gŵyl y Banc a’r gwyliau hanner tymor, yn annog pobl i ddewis traethau gydag achubwyr bywydau pan fyddant yn ymweld â’r arfordir. Mae'r elusen hefyd wedi ymuno ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i gydweithio ac archwilio'r ffyrdd gorau o gadw pobl yn ddiogel.
Y penwythnos hwn bydd achubwyr bywydau yng Nghymru yn dychwelyd i'w gwaith yn y Rhyl a Prestatyn yn Sir Ddinbych, Bae Rest ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Pembre yn Sir Gaerfyrddin, canol traeth Niwgwl yn Sir Benfro a Borth, Gogledd Aberystwyth, Cei Newydd, Llangrannog ac Aberporth yng Ngheredigion.
Mewn arolwg, a gomisiynwyd gan yr RNLI, mae 75% o’r rhai a holwyd - 16-64 oed - yn disgwyl ymweld â thraeth neu’r arfordir yn y DU rhwng Ebrill a Medi, gyda thua hanner y nifer hwnnw’n debygol o wneud hynny dair gwaith neu fwy. Dywedodd cyfran sylweddol uwch o'r cyhoedd (36%) hefyd eu bod yn bwriadu ymweld â'r arfordir yn fwy na'r arfer eleni, o gymharu â 2020 (24%).
Meddai Chris Cousens, Arweinydd Diogelwch Dŵr yr RNLI yng Nghymru:
'Rydym yn disgwyl i’r haf hwn fod y prysuraf erioed i'r achubwyr bywydau a’r criwiau bad achub sy’n gwirfoddoli yng Nghymru ac mae ffigurau’r arolwg yn ategu hynny. Gyda'r golygfeydd trawiadol a'r traethau gwych, rydym yn sicr y bydd pobl yn heidio i arfordir Cymru ac rydym eisiau i bobl ei fwynhau. Ond rydym eisiau annog pawb i barchu'r dŵr, meddwl am eu diogelwch eu hunain a gwybod beth i'w wneud mewn argyfwng.
Ein prif gyngor yw ymweld â thraethau lle mae achubwyr bywydau ac i nofio rhwng y baneri coch a melyn. Bydd achubwyr bywyd RNLI yn patrolio tua 245 o draethau yr haf hwn i gynnig cyngor ar sut i gadw'n ddiogel a byddant yno hefyd i helpu unrhyw un sy'n mynd i drafferthion.
'Os ydych ar draeth lle mae achubwyr bywydau neu beidio, chwiliwch am yr arwyddion diogelwch a gofynnwch am gyngor ynglÅ·n â lleoedd diogel i nofio, cadwch eich plant dan oruchwyliaeth bob amser, ceisiwch osgoi nofio ar eich pen eich hun lle bo hynny'n bosibl a gwybod sut i dynnu sylw’r achubwyr bywydau neu ffonio 999 neu 112 a gofyn am Wylwyr y Glannau mewn argyfwng.
'Mae ardaloedd arfordirol yn gyfle gwych i fwynhau’r awyr iach a mannau agored ond gall yr amgylchedd newid yn annisgwyl, yn enwedig ar ddechrau’r haf pan fydd tymheredd yr aer yn dechrau cynhesu ond mae tymheredd y dŵr yn parhau i fod yn oer iawn, gan gynyddu'r risg o sioc dŵr oer.'
Y prif gyngor am ddiogelwch yn ystod yr haf yw:
- Mynd i draethau lle mae achubwyr bywydau ac i nofio rhwng y baneri coch a melyn.
- Os ydych yn mynd i drafferth y neges i’w chofio yw Arnofio i Fyw - gorweddwch ar eich cefn ac ymlacio, gan wrthsefyll yr ysfa i gicio a chorddi’n wyllt.
- Ffoniwch 999 neu 112 mewn argyfwng a gofynnwch am Wylwyr y Glannau
Mae rhai sy’n cael eu hunain mewn trafferth yn y dŵr, ddim hyd yn oed wedi bwriadu mynd i’r dŵr. Mae ystadegau RNLI ar gyfer Cymru yn dangos mai pobl oedd yn mwynhau mynd am dro ac yna’n cael eu dal gan y llanw sydd wedi achosi bron i 10% o holl lansiadau bad achub RNLI dros y ddegawd ddiwethaf - mwy na dwbl cyfartaledd y DU. Mae achubwyr bywydau yn achub cannoedd yn fwy bob blwyddyn o bobl sydd wedi cael eu dal gan y llanw.
Felly mae'r RNLI wedi ymuno ag arbenigwyr ym Mhrifysgol Bangor i gael gwell dealltwriaeth o’r hyn mae pobl yn ei wybod am y llanw a'r risgiau cysylltiedig ar yr arfordir. Fel rhan o broject tymor hir, bydd yr elusen achub bywyd a phrifysgol flaenllaw yng Nghymru yn lansio arolwg cyn bo hir i gael gwell dealltwriaeth o wybodaeth pobl er mwyn gallu edrych yn effeithiol ar y ymyriadau priodol. Gyda llanw mwy na'r arfer yn ystod Gŵyl y Banc y penwythnos hwn, mae'r RNLI yn gobeithio y bydd pobl yn cymryd sylw o gyngor arbenigol.
Meddai Dr Martin Austin, Uwch Ddarlithydd mewn Gwyddorau’r Eigion, Prifysgol Bangor:
"Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn ymchwilio i sut mae llanw'n rhyngweithio â'r morlin mae'r gwaith hwn yn gwella ein gallu i ragweld sut mae traethau'n newid a nodi'r peryglon y gallant eu cyflwyno i'r bobl sy'n eu defnyddio ar gyfer hamdden. Rydym yn falch o fod yn gweithio’r RNLI ar y prosiect pwysig hwn oherwydd addysgu pobl am y peryglon yw’r ffordd orau o’u cadw’n ddiogel ar ein harfordir hardd."
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch diogelwch ar y traeth, ewch i:
Gellir gweld rhestr lawn o draethau gydag achubwyr bywydau yr RNLI yma: rnli.org/find-my-nearest/lifeguarded-beaches
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2021