Rhew môr yr Arctig a'r hinsawdd: Gwyddoniaeth a’r Senedd yn clywed am ymchwil diweddaraf Prifysgol Bangor
Bydd yr Athro Rippeth yn canolbwyntio ar ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Bangor dros y 15 mlynedd diwethaf sydd wedi datgelu dylanwad cynyddol dŵr Môr yr Iwerydd ar doddi rhew Môr yr Arctig ac effeithiau posib y dirywiad yn y rhew môr ar dywydd Cymru. Bydd yn cyflwyno'r ymchwil yn y cyfarfod ar thema Gwyddoniaeth Hinsawdd a Chynaliadwyedd cyn Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig COP26 a gynhelir yn Glasgow ym mis Tachwedd.
Meddai'r Athro Rippeth:
“Mae'r Arctig yn cynhesu ddwywaith yn gyflymach na gweddill y blaned a chanlyniad amlwg hyn yw'r lleihad ym maint y rhew môr dros Gefnfor yr Arctig, sydd ynddo'i hun yn achosi cynhesu pellach trwy'r effaith rhew-albedo.
“Ar gyfartaledd, amcangyfrifir bod ardal ychwanegol o rew môr sydd oddeutu pedair gwaith maint Cymru yn cael ei cholli bob haf yn ôl y Ganolfan Ddata Genedlaethol ar Eira a Rhew. Rydym hefyd wedi cael 15 haf yn olynol gyda’r maint rhew isaf a gofnodwyd yn ystod y 15 mlynedd diwethaf.
“Mae gwyddonwyr o'r farn nad yw'n gyd-ddigwyddiad bod mwy o dywydd 'rhyfedd' neu dywydd garw, yn cynnwys llifogydd, tanau gwyllt, rhew ac oerfel eithafol yn y gaeaf oherwydd gwynt o'r dwyrain a chyfnodau poeth iawn yng ngogledd Ewrop wedi digwydd ar yr un pryd â’r dirywiad yn y rhew môr dros y 15 mlynedd diwethaf."
Nid yw'r cyswllt achosol hwn wedi ei brofi eto gan wyddoniaeth, ond gallai'r diffyg prawf fod oherwydd nad yw'r modelau hinsawdd a ddefnyddir i ragweld newidiadau yn y dyfodol yn cynnwys y mecanwaith cynhesu sydd newydd ei ddarganfod.
Caiff y dirywiad yn ystod yr haf yn y rhew môr ei achosi i raddau helaeth gan gynhesu atmosfferig, gydag ail-rewi’n digwydd yn ystod oerfel y gaeaf hir tywyll.
Ond mae ymchwil ddiweddar, y cyfrannodd yr Athro Tom Rippeth o Ysgol Gwyddorau’r Eigion ato, wedi dangos bod toddi sy’n digwydd trwy gydol y flwyddyn a achosir gan geryntau cynnes yn llifo o dan y rhew môr o Fôr yr Iwerydd, sydd bellach yn gynhesach, yn cael mwy o effaith na thymereddau aer cynnes yr haf yn nwyrain Cefnfor yr Arctig. (https://theconversation.com/arctic-sea-ice-is-being-increasingly-melted-from-below-by-warming-atlantic-water-144106).
Mae cangen o Lif y Gwlff yn dod â dŵr cynnes i Gefnfor yr Arctig trwy Fôr Barents. Dangosodd bapur arloesol gan Dr Yueng-Djern Lenn, o Ysgol Gwyddorau’r Eigion a chydweithwyr yn 2018 fod y ffaith bod y dŵr mewnlifol hwn yn Llif y Gwlff yn cynhesu wedi achosi diflaniad rhew môr dros dde Môr Barents yn y gaeaf.
Er ei fod yn gynhesach na dŵr yr Arctig, mae'r dŵr mewnlifol hefyd yn fwy hallt ac yn suddo o dan ddyfroedd yr Arctig sy’n llai hallt ac yn cael eu hynysu rhag toddi'r rhew uwchlaw gan lefelau isel o dyrfedd yn y dyfroedd hyn.
Ymhellach i'r dwyrain ym Môr Laptev, i'r gogledd o Siberia, mae'r ffaith bod llai o rew môr wedi arwain at fwy o gynnwrf yn y môr sy'n dod â mwy o wres o ddŵr yr Iwerydd i'r wyneb gan achosi mwy o rew môr i doddi, ail-rewi yn ddiweddarach a rhew môr teneuach yn y flwyddyn ganlynol.
Meddai’r Athro Rippeth: “Mae hyn yn arbennig o bryderus gan ei fod yn creu adborth positif newydd o wres rhew/cefnfor a fydd yn ei dro yn lleihau maint rhew môr ymhellach.
Ychwanegodd: “Er bod Cefnfor yr Arctig yn ymddangos yn bell iawn o'n bywydau beunyddiol yma yng Nghymru, mae tystiolaeth gynyddol y gallai'r newidiadau yn y gogledd pell fod yn effeithio arnom trwy newid ein tywydd. Mae’n rhaid i ni wella ein dealltwriaeth o'r cysylltiadau hyn os ydym am allu lliniaru ac amddiffyn ein hunain rhag y canlyniadau.”
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2021