Rheolaeth gynaliadwy ar faetholion mewn pridd yn allweddol i ddiogelwch bwyd yn y dyfodol
Mae diogelwch bwyd yn fyd-eang dan fygythiad wrth i briddoedd gael eu hamddifadu o faetholion sy鈥檔 hanfodol i gynnyrch uchel ar gnydau. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd, yn y 鈥楯ournal of Applied Ecology鈥, astudiaeth a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor, yn amlinellu strategaethau i sicrhau y cynhyrchir bwyd mewn modd cynaliadwy trwy ddefnyddio dull cyfannol o reoli ar faetholion mewn pridd.
Wrth i boblogaeth y byd gynyddu, felly hefyd y mae鈥檙 galw am fwyd. I ateb y galw hwn, tyfir cnydau cynnyrch uchel gyda chymorth gwrteithiau artiffisial sy鈥檔 cynnwys macrofaethynnau nitrogen, potasiwm a ffosfforws. Fodd bynnag, gall y gadwyn fwyd fodern arwain at amddifadu priddoedd o faetholion, yn cynnwys microfaethynnau, y cyfeirir yn arferol atynt fel fitaminau a mwynau, megis seleniwm, sinc a chopr. Nid yn unig y mae diffyg microfaethynnau yn effeithio ar ansawdd maethol bwyd, ond mae鈥檔 bosibl hefyd y caiff ecosystemau niwed, a hynny鈥檔 amharu ar eu gallu i ddarparu ecosystem sy鈥檔 hollbwysig i ddiogelwch bwyd.
I amlygu graddfa鈥檙 broblem, bu ymchwilwyr o yn edrych ar arferion sy鈥檔 arwain at anghydbwysedd rhwng dileu ac ailgyflenwi maetholion pridd yn y DU ac yn India. Mae鈥檙 DU yn enghraifft o wlad ddatblygedig 芒 phriddoedd cymharol ifanc a ffrwythlon, tra bo India yn wlad ddatblygol, a chanddi briddoedd cymharol hen a disbyddedig.
Fel yr eglura Dr Paul Cross, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth:
鈥淐aiff y rhan helaethaf o鈥檙 bwyd a gynhyrchir yn y gwledydd hyn ei bwyta mewn dinasoedd, a chan boblogaeth fyd-eang sy鈥檔 dod yn fwyfwy trefol. Mae hyn yn arwain at drosglwyddo maetholion o ardaloedd gwledig i ardaloedd trefol, gydag ychydig yn unig o gyfle i ailgylchu鈥檙 maetholion yn 么l i鈥檙 tir. Hyd yn oed yn y DU, er enghraifft, mae profion yn awgrymu bod priddoedd yn dod yn amddifad o ficrofaethynnau, er nad yw hynny eto鈥檔 digwydd i鈥檙 graddau fel y cyfyngir ar gynhyrchion cnydau.
鈥淎r ben hynny, mae dwys谩u amaethyddiaeth yn aml yn golygu bod magu da byw a chynhyrchu cnydau鈥檔 digwydd mewn rhannau gwahanol o鈥檙 wlad, fel sy鈥檔 digwydd yn aml yn y DU. O鈥檙 herwydd, mae ffynonellau o faetholion ar gyfer cnydau, megis tail da byw a d诺r gwastraff o ffermydd, yn absennol o ardaloedd lle tyfir cnydau. Ar ben hynny, mae鈥檙 cynnydd yn nefnydd gwrteithiau i wella鈥檙 cynnyrch, yn enwedig mewn gwledydd datblygol 芒 phriddoedd llai ffrwythlon, yn arwain yn aml at lygru d诺r yr wyneb a鈥檙 tir 芒 gormodedd o wrteithiau nad ydynt yn mynd at y cnydau.鈥
I ymdrin 芒鈥檙 problemau hyn, mae鈥檙 ymchwilwyr wedi datblygu strategaethau i wella鈥檙 sefyllfa:
Yn y tymor byr (un flwyddyn), mae modd defnyddio nifer o strategaethau er mwyn lleihau鈥檙 golled o ficrofaethynnau pridd i gnydau. Ar lefel leol, gall ffermwyr ychwanegu microfaethynnau at wrteithiau, defnyddio chwistrelli ar ddail 鈥 techneg o fwydo planhigion yn union ar eu dail 鈥 yn cynnwys microfaethynnau, neu chwistrellu cymysgedd o ficrofaethynnau i mewn i resi o hadau.
Yn y tymor canolig (2-5 mlynedd), gall ffermwyr adfer lefelau microfaethynnau yn y pridd trwy osod microfaethynnau yn rheolaidd. Mae deunyddiau organig yn ffynhonnell dda o ficrofaethynnau, er nad yw defnyddio tail anifeiliaid, er enghraifft, yn economaidd ymarferol oni cheir cyflenwadau gerllaw.
Mae dulliau eraill yn cynnwys defnyddio gwrteithiau diwydiannol ag ychwanegion o ficrofaethynnau (e.e. gydag ychwanegiad o seleniwm, fel sydd eisoes yn digwydd yn achos gwrteithiau o Sweden) a hyrwyddo ffermio cymysg (h.y. magu anifeiliaid a thyfu cnydau ar yr un pryd), fel y gellir ailgylchu microfaethynnau mewn tail a d诺r gwastraff ffermydd yn lleol.
Yn y tymor hwy (mwy na 5 mlynedd), mae鈥檙 astudiaeth yn awgrymu y dylid cyfuno strategaethau rheoli pridd 芒 rhaglenni bridio planhigion sy鈥檔 datblygu amrywiaethau newydd o gnydau sy鈥檔 fwy abl i gymryd microfaethynnau.
Mae modd ategu鈥檙 holl ddulliau trwy bolis茂au integredig sy鈥檔 codi ymwybyddiaeth ac yn rhoi cyngor ar ddiffygion o ran maetholion pridd ymysg grwpiau perthnasol, e.e. ffermwyr, bridwyr cnydau a gwneuthurwyr gwrteithiau, yn ogystal ag i鈥檙 cyhoedd.
Gellwch lawrlwytho鈥檙 erthygl sy鈥檔 s么n am astudiaeth Prifysgol Bangor ar y Polisi ar Wyddoniaeth ar gyfer yr Amgylchedd:
Ffynhonnell: Jones, D. L., Paul Cross, P., Withers, P.J.A. et al. (2013) Nutrient stripping: the global disparity between food security and soil nutrient stocks. Journal of Applied Ecology. Doi: 10.1111/1365-2664.12089.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2013