Rhaglen ymchwil 拢7m i ddarpariaeth d诺r, bwyd ac ynni
Bydd y pum project ymchwil cyntaf i'w hariannu drwy , sy'n werth 拢7 miliwn, yn cael eu cyhoeddi yng Nghaerdydd Heddiw (ddydd Iau, 26 Mawrth).
Bu i'r Athro Julie Williams, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, gyhoeddi'r pump consortia ymchwil a fydd yn mynd i'r afael 芒 sialensiau mawr darpariaeth d诺r, bwyd ac ynni yn wyneb newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Rhwydwaith, Yr Athro David Thomas: 鈥淣od yr ymchwil yw rhoi hwb mawr i wyddorau yng Nghymru, a chreu buddion gwirioneddol i'r maes cynhyrchu bwyd ac ynni a'r amgylchedd, a fydd yn sail i ddatblygu polis茂au鈥檙 llywodraeth yn y dyfodol".
Yn y digwyddiad i arddangos y projectau uchelgeisiol hyn yn yr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ym Mae Caerdydd, dywedodd Yr Athro Thomas: 鈥淥 amddiffynfeydd arfordirol naturiol i ynni di-garbon oddi tan ein traed, nod y projectau hyn fydd dod o hyd i atebion i rai o'r sialensiau mwyaf y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol. Bydd pob un o'r pum menter ymchwil a gyhoeddir heddiw yn helpu i roi hwb i allu ymchwil Cymru a chreu manteision economaidd a chymdeithasol tymor hir i Gymru a thu hwnt.鈥
Meddai鈥檙 Athro Thomas: "Nod y projectau hyn yw edrych ar sut yr ydym yn gweithio gyda'n hadnoddau naturiol fel bod sicrwydd ynni, d诺r a bwyd yn parhau, a bod y manteision eraill a ddarperir gan y byd naturiol yn cael eu cynnal hefyd. Bydd y pum project a gyhoeddir heddiw yn gweld gwyddonwyr o wahanol ddisgyblaethau a sefydliadau ledled Cymru a thu hwnt yn cydweithio ar ymchwil sy'n torri tir newydd, sy'n gystadleuol iawn yn 么l safonau rhyngwladol."
Dyma'r pum rhaglen ymchwil a gyhoeddir heddiw:
- AquaWales: Ymchwil i ffyrdd o gynnal a gwella dyframaeth yn wyneb problemau a achosir gan newid yn yr hinsawdd, wedi'i harwain gan Dr Sonia Consuegra, Prifysgol Abertawe.
- Planhigion a Phensaern茂aeth: Ymchwil i'r rhyngweithio rhwng planhigion ac adeiladau i wella lles pobl, sicrwydd bwyd a lleihau allyriadau carbon, wedi'i harwain gan Yr Athro Iain Donnison, Prifysgol Aberystwyth.
- Geo-Carb-Cymru: Ymchwil i gadw CO2 mewn mwyngloddiau segur ac i ddefnyddio gwres geothermol o'r Ddaear fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy, di-garbon, wedi'i harwain gan Dr Andrew Mitchell, Prifysgol Aberystwyth
- Quotient: Ymchwil i wella ynni o'r m么r fel ffynhonnell ddibynadwy o b诺er, wedi'i harwain gan Dr Simon Neill, Prifysgol Bangor.
- Resilcoast: Ymchwil i ddefnyddio morfeydd i warchod ein morlin rhag llifogydd ac erydu, wedi'i harwain gan Dr Martin Skov, Prifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2015