Rhaglen beilot i fesur lefelau coronafeirws mewn gwaith trin d诺r gwastraff
(Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru 20 6 20)
Mae鈥檙 Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cadarnhau bod bron i hanner miliwn o bunnau wedi鈥檌 roi i raglen beilot a fydd yn tynnu sylw at arwyddion cynnar o鈥檙 coronafeirws yng Nghymunedau Cymru drwy fonitro鈥檙 systemau carthffosiaeth.
Gall monitro lefelau coronafeirws yn rheolaidd mewn gwaith trin d诺r gwastraff roi awgrym o鈥檙 gyfradd heintio yn y gymuned a rhoi arwydd cynnar bod coronafeirws yn bresennol.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi鈥檔 glir nad oes unrhyw dystiolaeth ar hyn o bryd bod coronafeirws wedi cael ei drosglwyddo drwy鈥檙 system garthffosiaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi鈥檙 cyllid i gonsortiwm dan arweiniad Prifysgol Bangor, gyda Phrifysgol Caerdydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a D诺r Cymru.
Byddant yn datblygu rhaglen fonitro a all fesur y lefelau o鈥檙 feirws SARS-CoV-2 sy鈥檔 bresennol mewn d诺r gwastraff. Mae presenoldeb SARS-CoV-2 mewn gwastraff dynol yn gyffredin yn bron bob achos o coronafeirws a gadarnhawyd.
Bydd y rhaglen beilot yn cael ei hariannu am chwe mis i ddechrau, a bydd gwaith samplo yn dechrau bron yn syth mewn nifer fach o leoliadau gwaith trin d诺r, gan ehangu yn gyflym i hyd at 20 o leoliadau sy鈥檔 gwasanaethu tua 75% o boblogaeth Cymru.
Wrth fonitro ar gyfer coronafeirws, bydd y systemau hefyd yn gallu canfod a oes mathau eraill o feirysau anadlol hefyd yn bresennol, a bydd hyn o gymorth i fonitro iechyd y cyhoedd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: 鈥淚 atal lledaeniad coronafeirws mae angen inni ei fesur yn ein cymunedau a monitro newidiadau. Bydd y rhaglen beilot hon yn ein galluogi i ddatblygu system rhybudd cynnar i鈥檔 hysbysu am y lefelau o haint coronafeirws yn y gymuned. Bydd hyn yn ategu ein rhaglenni iechyd y cyhoedd ehangach, gan gynnwys profion.
鈥淢ae鈥檙 cyllid yn rhoi cyfle i adeiladu ar y cryfderau a鈥檙 partneriaethau sydd gennym ar hyn o bryd yng Nghymru ym maes gwyddorau鈥檙 amgylchedd, gwyliadwriaeth ar glefydau, a genomeg pathogenau. Mae鈥檔 bleser gennyf fod yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymru.鈥
Dywedodd yr Athro Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:
鈥淩wy鈥檔 falch y bydd y gwaith monitro amgylcheddol arloesol hwn, sy鈥檔 cyfuno gwahanol feysydd arbenigedd yn ein Coleg Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd a Pheirianneg, yn cyfrannu at waith hollbwysig y wlad i ddiogelu cymunedau rhag COVID-19 ac achosion pellach o goronafeirws a feirysau heintus eraill.鈥
Dywedodd Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau D诺r Gwastraff D诺r Cymru: 鈥淩ydym yn falch iawn o fod yn rhan o鈥檙 rhaglen beilot hon a fydd yn chwarae r么l mor bwysig wrth helpu i ganfod presenoldeb coronafeirws mewn ardaloedd yn y dyfodol. Bydd hyn yn adeiladu ar y bartneriaeth lwyddiannus sydd gennym eisoes 芒 Phrifysgol Bangor ar yr ymchwil a wnaeth y Brifysgol i bresenoldeb olion o鈥檙 feirws mewn d诺r gwastraff. Bydd hyn hefyd yn adeiladu ar y berthynas waith gadarn sydd gennym eisoes 芒 Phrifysgol Caerdydd.鈥
Dywedodd yr Athro Andrew Weightman, Pennaeth Is-adran Organebau a鈥檙 Amgylchedd yn Ysgol y Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: 鈥淢ae cael gwybodaeth ynghylch sut mae鈥檙 feirws hwn yn lledaenu yn y gymuned yn hanfodol er mwyn gallu atal hynny, yn enwedig wrth i鈥檙 cyfyngiadau gael eu llacio. Mae monitro Sars-CoV-2 mewn d诺r gwastraff yn cynnig dull gweithredu amgen. Mae鈥檔 ffordd syml inni allu pennu lefel yr haint mewn cymuned fawr.
鈥淢ae gwaith ymchwil yn awgrymu bod y feirws i鈥檞 ganfod mewn ysgarthion hyd at tua phythefnos cyn i bobl ddechrau cael symptomau. Felly, gellid defnyddio鈥檙 dull hwn fel system rhybuddio鈥檔 gynnar i ddangos pan fydd lefelau鈥檙 feirws yn cynyddu yn y gymuned. Bydd hyn yn ein helpu i ragweld pan fydd achosion posibl o COVID-19 yn ailymddangos ac, yn y pen draw, yn ein helpu i ddiogelu cymunedau ledled Cymru.鈥
Gweler hefyd ein eitemau newyddion:
/news/prifysgol/yr-hyn-y-gall-ein-carthffosiaeth-ei-ddatgelu-am-gyfraddau-heintiad-covid-19-yn-y-gymuned-43628
/news/prifysgol/prifysgol-bangor-yn-cyfrannu-at-ymchwil-fyd-eang-i-covid-19-43460
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2020