Pynciau ym Mhrifysgol Bangor yn cyrraedd tabl byd-eang
Mae dadansoddiad sydd newydd ei gyhoeddi o dablau cynghrair ddylanwadol 2016, lle llamodd Prifysgol Bangor i fyny 60 safle i safle 411 yn fyd-eang, yn darparu gwybodaeth bellach am safleoedd gwahanol bynciau ymhlith prifysgolion gorau鈥檙 byd.
Mae safleoedd y pynciau鈥檔 ystyried ymchwil ac enw da rhyngwladol, ac mae鈥檔 rhaid i brifysgolion gwrdd 芒 meini prawf llym er mwyn cael eu cynnwys yn y tablau. Eleni, llwyddodd 26 pwnc sy鈥檔 cael eu dysgu ym Mangor i gwrdd 芒鈥檙 meini prawf hynny. Mae hyn wyth yn fwy na鈥檙 llynedd ac 16 yn fwy na 2014, sy鈥檔 gynnydd sylweddol.
Mae鈥檙 pynciau rhagorol ym Mhrifysgol Bangor sy鈥檔 ymddangos yn y gynghrair yn cynnwys Amaethyddiaeth a Choedwigaeth, a osodwyd yn y 150 uchaf yn y byd ac yn safle 6 yn y DU, Gwyddorau Amgylcheddol, a osodwyd yn y 200 uchaf drwy鈥檙 byd ac yn safle 20 yn y DU, a Seicoleg, a osodwyd yn y 200 uchaf yn y byd ac yn safle 26 yn y DU.
Meddai鈥檙 Athro Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil ac Effaith), Prifysgol Bangor:
鈥淥 ystyried bod sefydliadau鈥檔 cael eu mesur gan ymatebion eu cymheiriaid a chyflogwyr, a gan y nifer o bapurau ymchwil a gyhoeddir, mae ein lle yng nghynghrair eleni yn tynnu sylw at y ffaith bod ymchwilwyr Prifysgol Bangor yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol yn yr haen uchaf o brifysgolion.鈥
Mae鈥檙 ffaith ein bod wedi cynyddu鈥檙 nifer o bynciau sy鈥檔 cael eu cynnwys yn y rhestr yn dangos ehangder a dyfnder yr ymchwil a鈥檙 effaith o ansawdd uchel sy鈥檔 digwydd ym Mhrifysgol Bangor, ac yn ail-bwysleisio ein safle ar y llwyfan byd-eang.鈥
Cafodd y QS Subject Rankings eu lansio yn 2011 ac maent yn arweiniad i ystod o feysydd astudio poblogaidd mewn prifysgolion ar draws y byd
鈥淢ae llwyddiannau diweddar i鈥檙 Brifysgol yn cynnwys canlyniadau ardderchog yn yr asesiad cenedlaethol o ansawdd ymchwil (REF) a gydnabu fod mwy na thri chwarter ymchwil Bangor naill ai 鈥済yda鈥檙 orau yn y byd鈥 neu 鈥測n cael ei chydnabod yn rhyngwladol.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2016