Project ymchwil newydd yn rhoi sylw i flaenoriaethau cenedlaethol wrth ymladd bygythiad clefydau coed
Mae clefydau newydd yn risg arwyddocaol i iechyd coed a bioddiogelwch planhigion. Mae Cynghorau Ymchwil Llywodraeth y DU, DEFRA, y Comisiwn Coedwigaeth a Llywodraeth yr Alban wrthi鈥檔 buddsoddi 拢7M ar y cyd i gyllido saith project newydd mewn ymgais i ymdrin 芒鈥檙 bygythiadau a ddaw i goedwigoedd, coedlannau a choed yn y DU.
Mae Prifysgol Bangor yn bartner yn un o鈥檙 projectau hyn, gan gydweithredu 芒 Phrifysgolion Stirling a Chaergrawnt a鈥檙 Asiantaeth Ymchwil Coedwigaeth. Bydd y project, sy鈥檔 dwyn y teitl 鈥Modelling economic impact and strategies to increase resilience against tree disease outbreaks鈥, yn rhoi sylw i 鈥渢he protection and enhancement of public benefits, including biodiversity and ecosystem services (鈥) building resilience in woodlands, and wider landscapes鈥, sef y prif argymhellion sydd newydd gael eu cyflwyno鈥檔 benodol gan Bwyllgor T欧鈥檙 Cyffredin ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Bydd hefyd yn cyfrannu鈥檔 sylweddol at alwad y Pwyllgor am waith ymchwil a datblygu tymor hir sy鈥檔 canolbwyntio ar baratoi ar gyfer bygythiadau yn y dyfodol i iechyd planhigion, er mwyn sicrhau ymateb effeithiol yn y DU.
John Healey, Athro Gwyddorau Coedwigaeth ym Mhrifysgol Bangor, sy鈥檔 arwain Prifysgol Bangor yn y project, a dyma oedd ganddo i鈥檞 ddweud:
鈥淢ae鈥檙 heintiadau presennol o Phytophthora ramorum ar larwydd, a chlefyd coed ynn (chalara) yn fygythiad difrifol i goedwigoedd a choedlannau yng Nghymru, ac i鈥檙 swyddogaeth a gyflawnir gan goed ar raddfa ehangach. Mae鈥檔 fwy na thebyg y bydd clefydau a phl芒u newydd yn parhau i gyrraedd ac ymledu, gan fygwth mwy o鈥檔 rhywogaethau coed a鈥檔 cynefinoedd coedwigol, oni fyddwn yn dysgu sut i reoli ein coedwigoedd er mwyn gwella eu gallu i wrthsefyll yr effeithiau hyn ac i ymadfer ohonynt. Yn ein project, byddwn yn datblygu dulliau newydd sy鈥檔 dod ag arbenigedd at ei gilydd ym meysydd clefydau coed, ecoleg, rheoli coedwigoedd, modelu mathemategol ac economeg. Byddwn yn gweithio tuag at wella ffyrdd o ymdrin ag un o鈥檙 sialensiau enfawr a wynebir gan gymdeithas wrth ymdrin 芒鈥檙 newidiadau sydyn hyn wrth iddynt effeithio ar ein planed.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2014