Project myfyriwr yn dangos ei bod yn ddiogel bwyta mwyar duon ar ochrau ffyrdd
Mae鈥檔 adeg o鈥檙 flwyddyn pan fydd llawer o bobl yn hel ffrwythau, fel mwyar duon, ar ochrau ffyrdd. Fodd bynnag, mae rhai'n pryderu y gall ffrwythau meddal sy'n tyfu ar ochrau ffyrdd gynnwys lefelau uchel o fetelau trwm o ganlyniad o ollyngiadau o gerbydau.
Nod astudiaeth wyddonol a wnaed gan James Slack, myfyriwr o Sir Durham, fel rhan o'i radd ym Mhrifysgol Bangor, oedd gweld a oedd hyn yn wir ai peidio. Cafodd mwyar duon gwyllt, a oedd yn tyfu ar ochrau ffyrdd prysur o gwmpas Bangor ac Ynys M么n, eu hel a'u cymharu 芒 mwyar duon masnachol a brynwyd o siop.
Meddai'r Athro Davey Jones, a oruchwyliodd y project yn yr : "Fe wnaeth James waith gwych ar y project diddorol yma a chafodd lawer o fudd o'r profiad. Neges sylfaenol canlyniadau James yw bod crynodiadau metelau trwm, hyd yn oed mewn mwyar duon a gasglwyd wrth ochr ffyrdd prysur, yn llawer is nag unrhyw lefelau peryglus i rai sy'n bwyta'r mwyar. Felly ystyrir nad ydynt o fawr ddim perygl i iechyd pobl. Yn wir, mae ganddynt nifer o fanteision o ran iechyd ac, wrth gwrs, maen nhw am ddim!"
Fe wnaeth James ddadansoddi'r mwyar duon gan ddefnyddio peiriant TXRF (dull sy'n defnyddio pelydrau X hynod sensitif i adnabod elfennau mewn sampl) a chafodd ganlyniadau diddorol. Roedd crynodiadau o'r metelau plwm, titaniwm a paladiwm i gyd ychydig uwch mewn mwyar duon a gasglwyd ar ochrau ffyrdd prysur na rhai a gasglwyd ar ffyrdd gwledig tawel. Credid bod y plwm a'r titaniwm yn dod o grynodiadau yn y pridd a llygredd diweddar a hanesyddol yn deillio o losgi tanwydd ffosil ar y ffyrdd. Gall y paladiwm a ganfuwyd ddod o ollyngiadau o drawsnewidyddion catalytig, gan fod defnydd o'r metel mewn trawsnewidyddion wedi cynyddu'n gyson mewn blynyddoedd diweddar. Fodd bynnag, fe wnaeth dadansoddi'r mwyar duon masnachol hefyd ddatgelu lefelau sylweddol uwch o blwm a chopr o'u cymharu 芒 mwyar duon o ochrau ffyrdd gwledig, sy'n gysylltiedig o bosibl 芒 dulliau cynhyrchu'r ffrwythau.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Medi 2013