Proffil yr Unigolyn â Gradd: Elizabeth Crooks
Graddiodd Elizabeth Crooks, 21, o Stoke-on-Trent, â gradd BSc Daearyddiaeth. Derbyniodd Ysgoloriaeth Teilyngdod hefyd i fynychu Prifysgol Bangor.
Sut mae'n teimlo i fod yn graddio?
Mae'n teimlo'n anhygoel fy mod i'n graddio. Mae'r tair blynedd ddiwethaf wedi bod y rhai gorau yn fy mywyd, ond rydw i mor gyffrous i fynd allan i'r byd a gweld beth sydd ganddo i'w gynnig.
Cefndir...
Hyd yn oed o oedran ifanc roeddwn yn gwerthfawrogi ac yn caru'r byd, yn darganfod ei gysylltiadau, sut mae'n gweithio, sut mae'n anadlu, a sut mae bodau dynol yn ei newid. Roeddwn i eisiau bod yn gyflwynydd tywydd pan oeddwn i'n iau, brwdfrydedd a wnaeth addasu wedyn i fod yn frwdfrydedd am ddŵr, cynaliadwyedd dŵr, ac yn y pen draw fy arwain at fy llwybr gyrfa. Mae gen i ddwy chwaer hŷn, sydd wedi fy nghefnogi yn gyson ochr yn ochr â'm rhieni, a ffrindiau anhygoel gartref na allwn i fod wedi cwblhau hyn hebddynt. Rwy'n chwarae sboncen, yn hamddenol ac yn gystadleuol, ac rwyf bob amser wedi bod wrth fy modd yn cerdded yn yr awyr agored.
Pam Bangor?
Oherwydd fy mod i wedi syrthio mewn cariad â'r lle! Prifysgol wedi'i lleoli rhwng Eryri, y môr a machlud gogoneddus. Roedd y cwrs yn edrych yn wych ac roedd teimlad 'bach ond ddim yn rhy fach' y brifysgol yn ei gwneud yn gartrefol, heb fod yn llethol. Roeddwn i eisiau astudio cwrs am ein planed yn un o'r lleoedd harddaf naturiol, yn ogystal â phrifysgol gyda grwpiau cadwraeth, cerdded, caiacio a phob peth yn yr awyr agored.
Gweithio wrth astudio...
Gweithiais yn rhan-amser yn Asda rhwng astudiaethau. Roedd yn anodd ar adegau, ond rhoddodd i mi'r sgiliau yr oeddwn eu hangen i dyfu, a'r arian y gallwn ei ddefnyddio i gael car a mwynhau Cymru.
Profiad Myfyrwyr...
Fe wnes i gwblhau lleoliad gwaith â thâl am chwe wythnos yn Wyddonydd Ymchwil gyda Thames Water Utilities fel Intern Haf rhwng fy ail a'r drydedd flwyddyn. Roedd yn brofiad mor werthfawr gan fy mod wedi cael cyfleoedd yn y maes yn casglu data ymchwil, yn ogystal â dadansoddi samplau mewn labordai a oedd ymhlith y gorau. Roeddwn yn gallu defnyddio ac ehangu fy ngalluoedd o ran meddalwedd fel GIS a Matlab, a rhwydweithio gyda rhai pobl wirioneddol anhygoel yn y diwydiant dŵr a dŵr gwastraff. Cwblheais waith cadwraeth ochr yn ochr â'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, a chefais brofiad gwirioneddol o fyd gwaith. Fe wnes i yrru fan ar draws Llundain a dinasoedd eraill i gwrdd â chleientiaid a chwmnïau wrth gynrychioli Thames.
Clybiau a chymdeithasau...
Fe wnes i chwarae i Dîm Sboncen Cyntaf y Merched ac roeddwn yn Drysorydd y Clwb Canŵio. Roeddwn i'n mynd ar dripiau gyda'r clwb canŵio, o amgylch Cymru ac i Ardal y Llynnoedd.
Uchafbwyntiau...
Mi ddringais i ben y Wyddfa 13 o weithiau yn ystod fy nghyfnod ym Mangor! Byddwn yn dweud bob tro wrth weld yr olygfa honno ei fod yn uchafbwynt yn fy mywyd. Roedd Dawns yr Haf gyda'm cyd-letywyr hefyd yn uchafbwynt, wedi'n gwisgo mewn ffrogiau crand ar olwyn Ferris yn chwerthin a chael hwyl.
Y dyfodol ...
Ar hyn o bryd rydw i'n gweithio fel Technegydd Labordy yn Stoke on Trent gyda Lucideon Ltd (fel swydd haf) - ond yna rydw i'n dechrau fy Rhaglen Rheoli Graddedigion yn Reading gyda Thames Water Utilities ym mis Medi. Byddaf yn hyfforddai graddedig mewn cynhyrchu ac effeithlonrwydd dŵr. Rwy'n gobeithio tyfu fel unigolyn, a datblygu i fod yn rheolwr.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2019