Prifysgol Bangor yn y 7fed safle yn y DU am ymchwil Amaethyddol-dechnolegol
Gosodwyd Prifysgol Bangor yn 7fed yn y DU, ac yn 1af yng Nghymru, am yr effaith a gafodd ei chyhoeddiadau ar ei hymchwil amaethyddol-dechnolegol yn yr arolwg pwysig a gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyfer Llywodraeth y DU, 鈥溾. Syr Andrew yw Prif Weithredwr GlaxoSmithKline, ac roedd ei adroddiad arbenigol yn cydnabod y ffaith fod y DU yn un o wledydd mwyaf blaenllaw鈥檙 byd o ran technoleg a dyfeisiau, a bod ganddi rai o鈥檙 prifysgolion gorau yn y byd. Roedd yr adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd prifysgolion o ran creu twf economaidd. I greu鈥檙 dystiolaeth ar gyfer ei gasgliadau, comisiynodd yr Arolwg yr arbenigwr Elsevier mewn gwybodaeth am wyddoniaeth ac iechyd i nodi pa brifysgolion yn y DU sy鈥檔 llunio鈥檙 cyhoeddiadau sy鈥檔 cael yr effaith fwyaf yn eu maes yn yr 11 sector allweddol mewn Strategaeth Ddiwydiannol a鈥檙 Wyth Technoleg Fawr. Pennwyd effaith y Prifysgolion yn 么l y mynegeion cyfeirio a gafwyd gan eu cyhoeddiadau ymchwil ac, yn 么l y mesur hwn, roedd Bangor ar y 7fed safle yn y DU yn y Sector Strategaeth Amaethyddol-dechnolegol, sy鈥檔 cwmpasu datblygu ac allforio technolegau arloesol, e.e. mewn diogelwch bwyd.
Dywedodd yr Athro John Healey, cyfarwyddwr ymchwil yn y Coleg Gwyddorau Naturiol ym Mangor:
鈥淐roesawyd y gymeradwyaeth hon i ansawdd ac effaith ymchwil y Brifysgol yn y maes hwn o dechnoleg amaethyddol, am ei bod yn dangos ei hymrwymiad wrth ymchwil sy鈥檔 anelu at ateb anghenion diwydiant a chymdeithas, i helpu鈥檙 economi i dyfu, ac i greu swyddi trwy ddefnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy. Mae Canolfan Fiogyfansoddion arloesol Prifysgol Bangor yn enghraifft o hyn, gyda鈥檌 chysylltiadau cryf 芒 diwydiant a rhagoriaeth yr ymchwil i wyddor pridd, gwyddor yr amgylchedd a biodechnoleg yn yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth鈥.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2014