Prifysgol Bangor yn dangos y gall gwybodaeth deithio o blant i oedolion
Mae astudiaeth newydd gan wyddonwyr Bangor yn dangos y gall addysg ar faterion amgylcheddol gael dylanwad positif ar wybodaeth ac agweddau plant. Mae'r papur, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn , hefyd yn dangos y gall gwybodaeth a gafodd plant am gynlluniau i ddiogelu lemyriaid gael ei throsglwyddo i'w rhieni.
Gwnaed yr astudiaeth yn Nwyrain Madagascar gan Sariaka Rakotomamonjy mewn cynllun ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a NGO Madagascar Voakajy. Cafodd Sariaka ysgoloriaeth gan y Student Conference of Conservation Science i weithio gyda Dr Julia Jones a Dr Sophie Williams yn yn y Brifysgol.
Fe wnaeth rhaglen addysg mewn ysgolion gan ymchwilwyr o Fadagascar hyrwyddo diogelu lemyriaid yn Nwyrain Madagascar. Flwyddyn yn ddiweddarach fe wnaeth yr astudiaeth asesu gwybodaeth ac agweddau plant a gymerodd ran ynddi a'u rhieni.
Dangosodd yr astudiaeth hon y gall rhaglenni addysg wedi'u hanelu at blant ddylanwadu ar rieni hefyd a chynyddu gwybodaeth am lemyriaid. Fodd bynnag, roedd agweddau tuag at lemyriaid yn amrywio ar sail eu rhywogaeth. Roedd ar bobl ofn rhai mathau ohonynt, gydag eraill yn cael eu hystyried yn bla.
Os yw plant wedi gweld lemwr, maent yn fwy tebygol o gael agweddau positif tuag atynt, sy'n ategu cred sylfaenol bod profiad uniongyrchol o fyd natur yn elfen bwysig i wella dealltwriaeth ohono.
Ond, fel llawer o wledydd tlawd gyda bioamrywiaeth uchel, nid oes gan y system addysg ym Madagascar ddigon o gyllid i drefnu ymweliadau i'r coedwigoedd i weld lemyriaid, hyd yn oed i athrawon. Hefyd nid oes gan lawer o athrawon ddigon o hyder a gwybodaeth i gynnal dosbarthiadau effeithiol ar yr amgylchedd. Mae'r astudiaeth hon yn pwysleisio pa mor bwysig yw i ymchwilwyr cadwraeth gydweithio ag ysgolion i helpu i wella gwybodaeth ac agweddau plant tuag at fywyd gwyllt eu gwlad.
Meddai Dr Sophie Williams:
"Mae cadwriaethwyr yn ystyried bod addysg gadwraeth mewn ysgolion yn bwysig i wella gwybodaeth ac agweddau plant sy'n byw mewn ardaloedd bioamrywiaeth uchel tuag at fyd natur lleol. Fodd bynnag, hon yw un o'r astudiaethau prin iawn sy'n pwyso a mesur effeithiolrwydd rhaglenni o'r fath. Fe welsom bod y rhaglen addysg hon, a gynhelir gan Madagasikara Voakajy, wedi cael effaith bositif amlwg flwyddyn ar ôl ei dechrau."
Meddai Dr Julia Jones, uwch ddarlithydd mewn cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor:
"Mae bwrsariaethau'r Student Conference of Conservation Science yn rhoi cyfle gwych i fyfyrwyr cadwraeth o wledydd incwm isel i ganolig weithio gydag academyddion o wledydd Prydain a chael hyfforddiant arbenigol. Roeddem yn hynod falch o groesawu Sariaka i weithio gyda ni ym Mangor - y pedwerydd intern SCCS sydd wedi gweithio gyda ni dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae i'w gwaith arwain at bapur mewn cyfnodolyn mor rhagorol ag Animal Conservation yn gamp wirioneddol."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Awst 2014