Prifysgol Bangor yn cynnal digwyddiad llwyddiannus i gyn-fyfyrwyr ym mhedwaredd Gyngres Coedamaeth y Byd ym Montpellier, Ffrainc
Ddydd Llun 20 Mai 2019, gyda chefnogaeth y Ganolfan Addysg Ryngwladol, cynhaliwyd digwyddiad ym mhedwaredd Gyngres Coedamaeth y Byd ym Montpellier, Ffrainc gan staff yr Ysgol Gwyddorau Naturiol. Mae gan Brifysgol Bangor nifer fawr o fyfyrwyr rhyngwladol a bydd yn gwneud pob ymdrech i gadw mewn cysylltiad â chyn-fyfyrwyr ble bynnag yn y byd y bônt. Cyfarfu staff, cyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr yng ngwesty'r Oceania i rannu hanesion, rhwydweithio a dysgu am ddatblygiadau diweddar ym Mhrifysgol Bangor a thu hwnt.
Roedd nifer o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yno o bedwar ban byd yn cynnwys Hernà n Andrade a enillodd PhD yn 2007 ac sydd bellach yn gweithio i Brifysgol Tolima yng Ngholombia; Carlos Cerdan, a enillodd PhD ar y cyd â CATIE yng Nghosta Rica, a gyflogir bellach gan Brifysgol Veracruz ym Mecsico; Géraldine Deroirre (PhD ar y cyd â SLU Sweden, 2016) sydd yn gweithio erbyn hyn gyda CIRAD yng Ngaiana Ffrengig; Emilie Smith (MSc yn 2010 a PhD yn 2018) sy'n gweithio gydag ICRAF yn Nairobi; Liz Llewellyn (DL MSc mewn Coedwigaeth yn 2017) o Dde Affrica; Donald Zulu (MSc Coedamaeth 2008) o Zambia sydd bellach yn astudio am radd PhD ym Mhrifysgol Reading. Roedd y myfyrwyr presennol yn cynnwys Mary Crossland, sy'n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor sy’n gweithio'n agos gydag ICRAF; Bid Webb (myfyriwr PhD); yn ogystal â Yogesh Sawant, myfyriwr Coedwigaeth Drofannol India ar y rhaglen dysgu o bell.
Roedd hefyd yn gyfle i'n haelodau staff rhyngwladol gyd-gyfarfod, yn eu plith y cyn aelod staff James Brockington, sydd bellach yn gweithio yng Ngaiana Ffrengig, ein darlithydd anrhydeddus Dr Rob Brook sydd ar hyn o bryd yng Nghosta Rica, ac wrth gwrs Dr Fergus Sinclair sy'n gweithio gydag ICRAF yn Nairobi, Kenya.
Wrth hel atgofion am eu cyfnod ym Mangor, roedd y teithiau maes a'r mynyddoedd ymysg atgofion mwyaf melys y rhan fwyaf o'r cyn-fyfyrwyr. Nid yw hynny'n syndod, gan fod llawer ohonynt wedi bod yn rhan o raglenni rhyngwladol, boed hynny yn dilyn gradd MSc dysgu o bell, neu'n gwneud gwaith maes dramor. Hefyd, roedd gan lawer atgofion cynnes am awyrgylch yr adran ac yn dal i sôn am eu gwerthfawrogiad o ddarlithoedd y cyn-ddarlithydd Hussein Omed!
Daeth Meghan Giroux o Vermont, UDA, a fydd yn derbyn ei gradd MSc yn ddiweddarach eleni, â chynnyrch coedamaeth lleol gyda hi o'i thalaith. Roedd yn cynnwys sebonau, madarch wedi'u sychu mewn surop bedw a melysion siwgr masarn. Beth am syniadau arloesol am leoliadau eraill at y dyfodol?
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2019