Prifysgol Bangor yn croesawu Llysgennad Iwerddon
Croesawodd Prifysgol Bangor Lysgennad Iwerddon i'r Deyrnas Unedig yn ddiweddar gan ddangos iddo beth o'r gwaith ymchwil y mae Bangor yn cydweithio arno gyda sefydliadau partner yn Iwerddon.
Mr Dan Mulhall yw cynrychiolydd Iwerddon yn y Deyrnas Unedig ers 2013, a chafodd ei groesawu i'r brifysgol gan yr Is-ganghellor, Yr Athro John G. Hughes a thra bu yma, bu mewn cyflwyniad yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.
Mae ymchwilwyr yn yr ysgol wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid yn Iwerddon ar ddwy bartneriaeth sy'n edrych ar F么r Iwerddon. Mae partneriaeth Bluefish, ym maes gwyddorau'r eigion, yn werth 鈧5.5m ac yn ymchwilio i effaith newid hinsawdd ym M么r Iwerddon ar gynaliadwyedd pysgod a physgod cregyn, tra dylai 'Cynllun Peilot Porth M么r Iwerddon' roi gwell dealltwriaeth i bysgotwyr a gwyddonwyr o sut mae larf芒u pysgod cregyn yn teithio o amgylch M么r Iwerddon, a phryd ac ymhle y gellir eu canfod. Caiff y ddau broject eu hariannu gyda chymorth rhaglen cydweithredu Iwerddon-Cymru yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth groesawu Mr Mulhall i'r brifysgol, dywedodd yr Is-ganghellor, Yr Athro John G. Hughes:
鈥淏raf yw cael estyn croeso i Lysgennad Iwerddon yma i Brifysgol Bangor ac i ddangos iddo rywfaint o鈥檙 cydweithio arloesol sy鈥檔 digwydd rhwng y brifysgol a sefydliadau yn Iwerddon. Yn ogystal 芒 bod yn bartneriaid daearyddol agos, mae鈥檙 diddordebau academaidd cyffelyb sydd rhyngom, o astudio ieithoedd a ll锚n Geltaidd i wyddorau eigion, wedi esgor ar brojectau ymchwil cyfun o safon gwirioneddol ryngwladol.鈥
Cafodd Mr Mulhall hefyd gyfarfod 芒 rhai o'i gydwladwyr sy'n gweithio yma ym Mhrifysgol Bangor a chyfarfod ag Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, a fu i ymweld ag Iwerddon yn ddiweddar fel rhan o ddirprwyaeth Plaid Cymru gyda'r bwriad o gryfhau'r cyswllt hanesyddol sydd rhwng Cymru ac Iwerddon.
Wrth siarad yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Mr Mulhall bod y cysylltiadau rhwng y ddwy wlad yn hirsefydlog a bod yr ymchwil cydweithredol sy'n digwydd ar hyn o bryd rhwng Cymru ac Iwerddon yn cryfhau'r berthynas arbennig honno ymhellach. Meddai:
"Pleser yw cael ymweld 芒 Phrifysgol Bangor a Chanolfan Forol Cymru i weld cryfder yr ymchwil cydweithredol rhwng sefydliadau yng Nghymru ac Iwerddon ar waith. Mae'r projectau ymchwil arbennig a ariannwyd gan Raglen Iwerddon-Cymru yr UE yn dangos i mi y creadigrwydd a鈥檙 doniau sy鈥檔 cael eu cefnogi gan y rhaglen hon yn ogystal 芒 phwysigrwydd y cydweithrediad agos yma."
Mae Mr Mulhall yn nes谩u at ddiwedd ei gyfnod fel Llysgennad Iwerddon i'r Deyrnas Unedig a bydd yn fuan yn dechrau mewn swydd newydd fel prif gynrychiolydd Iwerddon yn Washington DC.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017