Penodi Athro o Fangor yn aelod o Fwrdd Gwyddoniaeth un o Gynghorau Ymchwil Prydain
Mae鈥檙 Athro David Thomas, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, wedi ei benodi yn aelod ol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (), y corff mwyaf yn y DU sydd yn cyllido ymchwil amgylcheddol, hyfforddiant ac arloesi annibynnol a gynhelir mewn prifysgolion a chanolfannau ymchwil.
Y Bwrdd Gwyddonol sy鈥檔 cynghori Cyngor NERC ar faterion gwyddonol. Mae鈥檔 gyfrifol, ymysg pethau eraill, am ddatblygu strategaeth wyddonol integredig NERC ac am ddarparu cyngor ar gydbwysedd y portffolio gwyddoniaeth ac ar y blaenoriaethau strategol o gyllido rhaglenni a mentrau newydd.
Bydd Yr Athro Thomas yn dechrau ar y gwaith yn Ionawr 2017 am gyfnod o ddwy flynedd, cyfnod y mae modd ei ymestyn am ddwy flynedd ychwanegol wedi hynny.
Meddai鈥檙 Athro Thomas: 鈥淩wy鈥檔 edrych ymlaen at gael cyfrannu at strategaeth hir-dymor y DU ar gyfer rhagoriaeth ymchwil ym maes y gwyddorau amgylcheddol. Mae鈥檙 cyfle i gyfrannu ar lefel strategol fel hyn yn gyfle nodedig.鈥
Meddai鈥檙 Athro Jo Rycroft-Malone, Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil) ym Mhrifysgol Bangor: 鈥淢ae penodi鈥檙 Athro Thomas yn aelod o鈥檙 bwrdd hwn yn dyst i鈥檞 enw da fel ymchwilydd. Mae penodi academyddion o Brifysgol Bangor hefyd yn arwydd clir o safon uchel ein ymchwil ac mae鈥檔 adlewyrchu鈥檔 dda ar yr ymchwil amgylcheddol sy鈥檔 digwydd yma.鈥
Mae鈥檙 Athro Thomas yn Bennaeth Ysgol, yn deilydd cadair y Gwyddorau Biolegol a Chyfarwyddwr , sef menter genedlaethol fawr wedi ei chyllido gan raglen S锚r Cymru Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae鈥檙 rhwydwaith yn cefnogi ymchwil rhyngddisgyblaethol ac ar y cyd wrth edrych ar y rhyngweithio rhwng tir, d诺r, darparu bwyd a chynhyrchu ynni ar raddfeydd gofodol rhwng systemau awyr-tir-d诺r.
Ers iddo gyrraedd yma ym Mangor yn 1996, mae prif weithgareddau ymchwil Yr Athro Thomas wedi bod ym meysydd ecoleg a chemeg yr Antartig a rhew m么r yr Arctig. Yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf, mae wedi cyfuno鈥檙 diddordebau hyn ag ymchwil sy鈥檔 fwy lleol ei natur gan ganolbwyntio ar gemeg y deunydd organig sy鈥檔 cael ei rhyddhau o鈥檙 gweryd wrth iddo gyrraedd afonau a鈥檙 m么r maes o law.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2016