Peidiwch 芒 tharfu ar y piod y m么r wrth eu cwsg!
Mae s诺olegwyr o Brifysgol Bangor wedi dangos sut all gweithgareddau dynol fod yn tarfu ar biod m么r, aderyn Prydeinig sydd yn agos i fod at fygythiad.
Bu鈥檙 ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn y yn astudio i ba raddau y mae cwsg yr adar yn cael ei aflonyddu gan gerddwyr a phobol yn cerdded eu c诺n, a gan gychod ar y m么r yn y pellter, a pha effaith gall y rhain gael ar eu hangen am gwsg a鈥檜 bywiogrwydd i unrhyw fygythiad.
Mae cwsg yn ymddygiad hanfodol sydd yn galluogi anifeiliaid i gadw egni, ond nid oes digon o ymchwil i鈥檙 pwnc ymysg poblogaethau anifeiliaid yn y gwyllt.
Fel yr esbonia Meaghan McBlain, a gwnaeth yr ymchwil fel rhan o鈥檌 gradd MZoo:
鈥淏um yn recordio symudiadau llygaid yr adar tra yr oeddent yn cysgu, ar sawl achlysur a lleoliad dros gyfnod o bedair mis. Mae鈥檙 adar wedi esblygu strategaeth a elwir yn 鈥榮becian鈥, sef y gallu i agor un llygad am gyfnod byr iawn pob hyn a hyn, tra鈥檔 cysgu, i fonitro eu hamgylchedd am unrhyw fygythiadau posib.鈥
Wrth asesu鈥檙 amlder y 鈥榮pecian鈥 a hyd yr edrychiad tra鈥檔 cysgu o dan amgylchiadau gwahanol, canfu鈥檙 ymchwilwyr bod presenoldeb pobl 芒 ch诺n yn arwain at lai o gwsg ar y cyfan, gan bod yr adar yn cynyddu鈥檙 amlder ac amser agor y llygad.
Wrth glywed cychod yn mynd heibio, roedd yr adar yn 鈥榮becian鈥 yn amlach ond am lai o hyd.
Roedd yr adar hefyd yn monitro鈥檜 cymdogion cyfagos ac yn cysgu llai os oedd eu cymdogion yn effro. Ar y cyfan, roedd y piod m么r yn cysgu mwy pan yng nghanol haid fawr o adar gan fod unigolion yn rhannu鈥檙 dasg o fonitro鈥檙 amgylchfyd am fygythiadau posib.
Esboniodd cyd-awdur y papur, Dr Graeme Shannon, sy鈥檔 ddarlithydd mewn ymddygiad anifeiliaid:
鈥淢ae cwsg yn swyddogaeth o bwys, a dros amser, gall aflonyddu effeithio ar ffitrwydd, yn enwedig pan fo adnoddau yn brin yn y gaeaf, pan fo鈥檙 galw ar adnoddau ynni yn uchel.鈥
Ychwanegodd: 鈥淢ae鈥檔 bosib bod llai o darfu yn ystod y cyfyngiadau symud, sydd wedi cyd-ddigwydd 芒鈥檙 tymor bridio, wedi bod o fudd, ond mae鈥檔 rhy fuan i ddweud os y bydd hyn yn cael ei drosglwyddo i gynnydd yn y boblogaeth, yn enwedig o ystyried bod y lleihad mewn niferoedd yr ydym yn ei gweld wedi digwydd dros degawdau.鈥
Ychwanegai Dr Katherine Jones, darlithydd S诺oleg sydd hefyd yn gydawdur:
鈥淢ae鈥檙 ymchwil hwn gan Brifysgol Bangor yn chwarae r么l bwysig o fewn ein deall o ymddygiad mewn anifeiliaid gwyllt, yn enwedig y rhai hynny sydd a鈥檜 niferoedd yn dirywio, fel y bioden f么r.鈥
Bu Meaghan yn cynnal yr arolwg ym Morfa Madryn ger Llanfairfechan ac ym Miwmares. Cafodd ei harolygu gan Dr Graeme Shannon a Dr Katherine Jones yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol a gorffennodd y gwaith fel rhan o鈥檌 gradd Meistr mewn S诺oleg yn 2017.
Meddai:
鈥淒es i wybod am Fangor yn gyntaf am ei henw da am ymchwil yn y gwyddorau naturiol. Unwaith y gwelais pa mor hardd oedd yr ardal yn ystod Diwrnod Agored a chlywed am yr ymdeimlad o gymuned, roeddwn wedi fy mherswadio!
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mehefin 2020