Nofwraig wyllt yn gweithio gyda'r brifysgol i edrych ar ficroplastigion mewn Parciau Cenedlaethol
Mae nofwraig wyllt yn ymweld 芒 phob un o 15 parc cenedlaethol y Deyrnas Unedig fel rhan o alldaith wyddonol ar y cyd 芒 Phrifysgol Bangor.
Tra bydd Laura Sanderson yn ymgymryd 芒鈥檙 her nofio bydd yn casglu cannoedd o samplau d诺r, a fydd yn cael eu dadansoddi ym Mhrifysgol Bangor i chwilio am bresenoldeb microplastigion.
Ofnir y bydd y darnau bychan hyn o blastig yn bresennol hyd yn oed yn y lleoliadau mwyaf anghysbell yn ein parciau cenedlaethol.
Cafodd Laura ei hysbrydoli i drefnu'r her ar 么l dod o hyd i ficroplastigion y llynedd yn Llyn Glaslyn, fymryn yn is na chopa鈥檙 Wyddfa.
鈥淵 llynedd fe wnaethon ni nofio 26 km o lyn wrth gopa鈥檙 Wyddfa gan ddilyn trywydd yr afon yr holl ffordd at yr arfordir,鈥 meddai Laura.
鈥淐awsom ein dychryn pan glywson ni fod microplastigion yn y d诺r yr oedden ni wedi'i gasglu ar hyd y ffordd.
鈥淔elly nawr rydyn ni eisiau gweld pa mor eang yw'r broblem ac edrych ar y dyfrffyrdd ym mhob un o barciau cenedlaethol Prydain.
鈥淏yddaf yn nofio cyfanswm o 1,000 km ym mhob un o鈥檙 15 parc cenedlaethol ac rwy鈥檔 gobeithio cwblhau鈥檙 her mewn dim ond chwe wythnos.
鈥淢ae鈥檙 cyfnod clo wedi effeithio鈥檔 arw ar fy ngallu i hyfforddi ac mae鈥檔 bendant yn mynd i fod yn her - ond byddaf yn nofio trwy rai o鈥檔 tirweddau mwyaf gwyllt a bregus a bydd yr ymchwil y byddwn yn ei wneud yn helpu i dynnu sylw at effaith amgylcheddol microplastigion yn nyfroedd y Deyrnas Unedig trwy ymchwil wyddonol a dyna fydd yn fy ysgogi i gario ymlaen,鈥 ychwanegodd Laura, sy'n rhedeg y sefydliad nofio amgylcheddol nid-er-elw weswimwild.com.
Yn ymuno 芒 Laura er mwyn dadansoddi'r samplau d诺r bydd Dr Christian Dunn, sy鈥檔 uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.
鈥淢ae鈥檙 ymchwil hwn yn bwysig oherwydd mae angen i ni wybod maint y broblem microplastigion yn ein dyfrffyrdd, os ydym am gael unrhyw obaith o fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem.
鈥淏yddai鈥檔 braf meddwl, oherwydd bod rhai o鈥檙 ardaloedd y bydd Laura yn nofio trwyddynt yn gymharol anghysbell, na fydd llygredd microplastig yn effeithio arnynt - ond yn anffodus mae hynny鈥檔 annhebygol o fod yn wir.鈥
鈥淢ae faint o blastig sydd ynddynt fodd bynnag yn rhywbeth y mae angen i ni ei ddysgu,鈥 ychwanegodd.
Mae'r sefydliad amgylcheddol Surfers Against Sewage (SAS) wedi cytuno i fod yn bartneriaid i Laura a Phrifysgol Bangor yn ystod yr her.
Dywedodd Hugo Tagholm, Prif Swyddog Gweithredol yr elusen: 鈥淩ydym yn falch iawn o fod yn bartner ar yr alldaith amgylcheddol newydd a chyffrous hon. Bydd yn darparu data gwyddonol unigryw o lynnoedd, afonydd a lleoliadau arfordirol anghysbell i asesu graddfa'r argyfwng o ran llygredd microplastigion ac yn cynnig atebion.
鈥淢ae llygredd microplastigion yn cael sylw mawr bellach ac mae鈥檔 amlwg bod yn rhaid cymryd camau ar frys i atal y plastigion hyn rhag llygru ein hafonydd a llifo i鈥檙 cefnfor. Mae鈥檔 rhaid i arweinwyr mewn llywodraeth a busnes ddeddfu, arloesi a chydweithio i atal y llygredd plastig hwn,鈥 meddai Hugo.
I ddilyn yr her nofio ar Instagram ewch i @weswimwild ac i ddilyn yr ymgyrch yn erbyn microplastigion ewch i wefan SAS ., neu ewch i .
Amserlen y nofio (yn amodol ar newidiadau munud olaf o ran amser a lleoliadau):
鈥 Sir Benfro Afon Cleddau. Medi 1 - 2
鈥 Bannau Brycheiniog: Afon Cleddau. Medi 3 - 4
鈥 Cairngorms: Afon Spey. Medi 6 - 11
鈥 Loch Lomond a'r Trossachs: Afon Falloch. Medi 13 - 19
鈥 Northumberland: Afon Coquet Medi 21 - 24
鈥 Ardal y Llynnoedd: Afon Great/Eden. Medi 25 - 29
鈥 Yorkshire Dales: Afon Ure. Hydref 2 - 3
鈥 North York Moors: Afon Esk. Hydref 4 - 6
鈥 Norfolk Broads: Afon Thurne. Hydref 7 - 8
鈥 South Downs: Afon Rother. Hydref 9 鈥 10
鈥 New Forest: Afon New Forest. Hydref 11
鈥 Dartmoor: Afon Dart. Hydref 12 鈥 14
鈥 Exmoor: Afon Exe. Hydref 15 鈥 16
鈥 Peak District: Afon Exe. Hydref 18 鈥 20
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2020