Myfyrwyr SENRGY yn helpu i amddiffyn coedwig law ar Ddiwrnod Bydd Wyrdd!
Efallai eich bod wedi gweld llawer o bobl wyrdd o gwmpas Bangor yn ddiweddar. Yn ffodus nid pobl o'r gofod oedd y rhain ond myfyrwyr "Eco-ryfelwyr" modern Bangor!
Mae myfyrwyr Bangor wedi bod yn gweithio gyda Maint Cymru, sef elusen amgylcheddol yng Nghymru sy'n ceisio achub 2 filiwn hectar o goedwigoedd glaw. Bwriad yr elusen yw defnyddio'r term negyddol o fesur sef "Ardal yr un faint â Chymru" fel mesur cadarnhaol i leihau dinistrio’r coedwigoedd.
Gyda chymorth Maint Cymru, ceisiodd fyfyrwyr Bangor wyrdroi'r defnydd negyddol o faint y wlad trwy annog pobl Bangor i weithredu'n gadarnhaol a helpu i godi £500 i amddiffyn darn o goedwig glaw ym Madagascar sydd yr un faint â Bangor.
Myfyrwyr SENRGY, Alison Cross a Thomas Edwards, oedd llysgenhadon y myfyrwyr a fu'n cyd-drefnu teithiau cerdded Bydd Wyrdd gyda'u cyd-fyfyrwyr o bier Bangor, ar hyd y stryd fawr i Borthaethwy, cwisiau Bydd Wyrdd ym Mar Uno a gwerthu breichledi ar Ddiwrnod Bydd Wyrdd (19 Hydref).
O ganlyniad i'r holl ymdrech a gwaith caled llwyddwyd i godi £722 gyda phob punt yn amddiffyn un hectar. Meddai Alison wrth edrych yn ôl ar eu hymdrechion, "Roedd yn ffordd wych o godi arian ac ymwybyddiaeth am faint o goedwigoedd glaw sy'n cael eu dinistrio a gobeithio bydd yr arian yn mynd tuag at amddiffyn rhan bwysig o goedwig glaw Madagascar. “
Os ydych yn dal i fod eisiau cyfrannu £1 neu fwy ewch i wefan Llwyth Bangor.
.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Ionawr 2013