Myfyriwr doethuriaeth yn mynychu lansiad adroddiad seneddol ar newyn
Mae myfyriwr doethuriaeth a gyfrannodd dystiolaeth at adroddiad seneddol pwysig ar newyn yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn Llundain yn lansio'r ddogfen ddilynol.
Mae doethuriaeth David Beck yn edrych ar dwf banciau bwyd yng Nghymru. Cafodd ei wahodd yn wreiddiol i rannu canfyddiadau ei ymchwil doethurol ger bron Gr诺p Seneddol Trawsbleidiol ar Newyn. Cyhoeddodd y Gr诺p Seneddol eu harchwiliad i newyn yn y Deyrnas Unedig ym mis Rhagfyr 2014.
Roedd ei ymchwil, a gasglwyd o blith cyfweliadau 芒 defnyddwyr banciau bwyd a gwirfoddolwyr ledled Cymru, yn dangos bod cysylltiad rhwng twf banciau bwyd a'r mesurau llymder a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod tlodi bwyd yn broblem wirioneddol yn y Brydain sydd ohoni, ac yn cynnig y dylid ffurfio corff yn seiliedig ar y "mudiad banciau bwyd", adrannau'r llywodraeth a'r ffigurau perthnasol eraill.
Defnyddiwyd ymchwil David unwaith yn rhagor wrth baratoi鈥檙 adroddiad dilynol a chafodd yr adroddiad hwnnw ei lansio yn San Steffan ddydd Iau, 10 Rhagfyr gyda chyflwyniad gan Justin Welby, Archesgob Caergaint.
Mae'n dangos bod y sefyllfa wedi gwella mymryn yn dilyn gwneud yr argymhellion cychwynnol, ond y bydd gwelliannau tymor hir efallai'n cymryd blynyddoedd lawer i'w cyflawni.
Cafodd David ei wahodd i'r digwyddiad lansio yn Portcullis House gan Frank Fields, AS Penbedw a chydawdur y ddau adroddiad, sef y g诺r y cyflwynodd David werth 18 mis o ymchwil iddo.
鈥淢ae diffyg tystiolaeth yngl欧n 芒 thlodi bwyd a thwf y banciau bwyd, a dyna pam y daeth APPG i gyswllt 芒 fi鈥, eglurodd David sydd yn wreiddiol o Bolton. 鈥淲rth wneud fy ymchwil daeth yn amlwg bod twf y banciau bwyd yn gysylltiedig 芒 thwf mewn tlodi bwyd a'r ffaith nad oes gan bobl fynediad at ddigon o fwyd. Y rheswm pennaf dros hyn yw bod pobl yn dioddef oherwydd system fudd-daliadau gosbol.鈥
鈥淩hwng 1998 a 2010, o dan y Llywodraeth Lafur, roedd 16 banc bwyd yng Nghymru. Ers 2010, o dan y Llywodraeth Geidwadol, mae'r nifer wedi codi i 157.鈥
Mae David yn gwirfoddoli ym manc bwyd Eglwys Gadeiriol Bangor, sef un o blith nifer o fanciau bwyd lleol ac annibynnol a fynychodd y digwyddiad. 鈥淵n y gynulleidfa roedd cyrff eraill hefyd a oedd wedi cyflwyno tystiolaeth, gan gynnwys y Gr诺p Gweithredu ar Dlodi Plant, Cristnogion yn Erbyn Tlodi, FaresShare ac Ymddiriedolaeth Trussell. Roedd eu hymateb i'r lansiad yn ffafriol iawn.鈥
Mae David yn nhrydedd flwyddyn ei ddoethuriaeth, sy'n dwyn y teitl 'The Changing Face of Food Poverty'.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2015