Mannau gweithredu newydd a diogel i gynnal riffiau cwrel y byd
Mae arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth riffiau cwrel yn galw am gytuno ar fannau gweithredu diogel newydd i sicrhau y bydd riffiau cwrel gwerthfawr yn goroesi i'r dyfodol.
Mewn erthygl adolygu a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn Frontiers in Ecology and the Environment, (Guiding coral Reef Futures in the Anthropocene doi 10.1002/fee.1427 ), sy'n dod â'r holl wybodaeth ddiweddaraf am riffiau cwrel at ei gilydd, dadl y gwyddonwyr yw y dylem gytuno'n fyd-eang ar fannau gweithredu diogel neu barthau clustogi i sicrhau goroesiad riffiau cwrel.
Mae'r rhan fwyaf o'r bygythiadau i oroesiad parhaus riffiau cwrel yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o ganlyniad i weithgareddau dynol fel pysgota, llygredd neu gynhesu byd-eang.
Mae'r awduron yn gobeithio y bydd darparu paramedrau gweithredu diogel yn cynnig amcan mwy cadarnhaol y gellir ei reoli a chytuno arno, yn hytrach na phennu trothwyon lle byddai cynaliadwyedd gweithredol riffiau cwrel yn y dyfodol mewn perygl y tu hwnt i'r trothwyon hynny.
Fel yr eglura un o'r awduron, Dr Gareth Williams yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion, Prifysgol Bangor:
"Mae riffiau cwrel yn werthfawr o ran bioamrywiaeth, diogelwch bwyd, amddiffyn yr arfordir a nifer o bethau eraill ac mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn parhau yn y cyfnod hwn o newid cyflym. Yn hytrach na gwthio'r ecosystemau hyn y tu hwnt i'w terfynau, tu hwnt i'r pwynt critigol, rydym yn galw am ddynodi mannau gweithredu diogel a fydd yn sicrhau y gallwn barhau i ddefnyddio riffiau cwrel ar gyfer gwasanaethau ecosystemau heb ddisbyddu eu gallu i oroesi i'r dyfodol.
Bydd y canllawiau yn ceisio rheoli effeithiau dynol yn lleol ac yn fyd-eang fel pysgota, llygredd maetholion a chynhesu'r cefnforoedd ac asideiddio, sydd i gyd yn cael effeithiau niweidiol ar iechyd riffiau cwrel.
Bydd y canllawiau yn cynnwys mesurau fel terfynau diogel i grynodiadau carbon deuocsid yn y cefnfor (wrth i'r cefnforoedd amsugno fwy o Co2 atmosfferig), sy'n achosi neu'n cyfrannu at ddinistrio riffiau cwrel. Dylai'r rhain barhau o fewn 340-480 rhan y filiwn neu'n is na hynny (er eu bod ar hyn o bryd yn 400 rhan y filiwn ac rydym wedi gweld y cannu coral gwaethaf a mwyaf eang erioed).
Mae'r riffiau cwrel yn ffynhonnell bwyd bwysig, ond maent hefyd yn gweithredu fel 'gwarchodfeydd' naturiol i bysgod. Awgryma'r papur os oes pysgota, dylai 500-250 kg o bysgod yr hectar barhau, i osgoi gorbysgota yn yr ardaloedd hyn. Ar hyn o bryd gall ardaloedd diogelu morol lleol gynnig manteision economaidd gymdeithasol ac ecolegol yn lleol. Ond dylent fod yn hollgynhwysol a holistaidd a dylai ansawdd y dŵr aros rhwng 0.45-0.55 microgram cloroffyl y litr. Mae cloroffyl yn blodeuo pan mae lefel uwch o faetholion yn y dŵr oherwydd llygredd neu ddŵr ffo o weithgareddau dynol fel ffermio neu lygredd, ac mae hefyd yn effeithio ar y cwrel.
"Er y gellir rheoli rhai o'r gweithgareddau hyn ar lefel leol, ac maent yn cael eu rheoli, efallai bod rhaid cael cydweithio rhwng llywodraethau'r byd i leihau allyriadau nwyon tÅ· gwydr ar unwaith er mwyn gwrthsefyll y bygythiad mwyaf sef newid hinsawdd byd-eang a'i effeithiau ar riffiau cwrel", eglurodd Williams.
Er bod y byd yn symud i'r cyfeiriad iawn gyda chytundeb hinsawdd Paris, sy'n dod i rym ddydd Gwener yma, 4 Tachwedd, a Nod 14 o Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig sy'n cwmpasu deg targed ar gyfer y cefnforoedd a chymal o dargedau Confensiwn Amrywiaeth Biolegol Aichi sy'n galw'n glir am leihau pwysau dynol ar riffiau cwrel a chynnal eu hintegredd a'u swyddogaeth, mae'r awduron yn gobeithio y bydd canllawiau yn helpu i ddod â rhagor o sylw a chamau cadarnhaol y gellir eu mireinio fel y gwneir rhagor o ymchwil, er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r coral.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2016