Mae Bangor yn cynnig deg Ysgoloriaeth ddysgu-o-bell newydd ym maes Coedwigaeth Ryngwladol, diolch i Gomisiwn Ysgoloriaethau鈥檙 Gymanwlad
Mae鈥檔 bleser gan Staff yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy) Prifysgol Bangor gyhoeddi bod Comisiwn Ysgoloriaethau鈥檙 Gymanwlad (CSC) wedi cytuno i gyllido 10 lle ar gyfer ysgolorion o wledydd datblygol o fewn y Gymanwlad i astudio ar gwrs dysgu-o-bell yr MSc mewn Coedwigaeth. Bydd yr ysgoloriaeth yn cynnwys ffioedd dysgu rhyngwladol, ynghyd ag ysgoloriaeth deithio, fel y gall ysgolorion fynd ar gwrs maes yn 2012 neu 2013.
Meddai Dr James Walmsley, Cydlynydd Dysgu-o-Bell, 鈥淢ae鈥檙 CSC wedi cyllido projectau PhD unigol o鈥檙 blaen yn SENRGy, ond hwn yw鈥檙 tro cyntaf iddynt gytuno i gyllido rhaglen 么l-radd trwy ddysgu.
鈥淢ae gweithwyr proffesiynol ym maes Coedwigaeth o wledydd datblygol wedi dangos mwyfwy o ddiddordeb yn ein cwrs dysgu-o-bell. Bydd yr ysgoloriaethau dysgu-o-bell nodedig hyn yn galluogi 10 myfyriwr rhyngwladol i astudio ar gyfer eu gradd MSc mewn Coedwigaeth, tra byddant yn byw ac yn gweithio yn eu gwledydd eu hunain. Rydym yn gobeithio y gallwn, wrth gynnig y cwrs hwn iddynt, drosglwyddo gwybodaeth, medrau a syniadau, er hwyluso rheolaeth gynaliadwy ar goedwigoedd mewn nifer o wledydd o fewn y Gymanwlad,鈥 ychwanegodd.
Mae鈥檙 Ysgol yn cynnig cyrsiau dysgu-o-bell sy鈥檔 gysylltiedig 芒 choedwigaeth er 2002 a, hyd yma, mae 71 o fyfyrwyr wedi graddio 鈥 rhai na fyddent, fel arall, wedi cael y cyfle i astudio ar gyfer gradd uwch. Mae t卯m y cwrs yn parhau i ddiwygio a diweddaru deunyddiau dysgu, gan wneud mwyfwy o ddefnydd ar dechnolegau e-ddysgu, a hynny er mwyn gwella gwaith dysgu ac asesu gydag unigolion a hefyd gyda grwpiau.
Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost i distance@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Ionawr 2011