Llongddrylliadau hanesyddol i gyfrannu at ddyfodol ynni adnewyddadwy morol Cymru
Bydd llongddrylliadau hanesyddol o amgylch arfordir Cymru, fel llongddrylliad y llong danfor Almaenig a suddodd 10 milltir oddi ar Ynys Enlli ar ddiwrnod Nadolig 1917, yn cyfrannu at dwf sector ynni adnewyddadwy morol Cymru.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd gwyddonwyr morol o Brifysgol Bangor yn arolygu arfordir Cymru fel rhan o broject SEACAMS2 a gyllidir gan yr ERDF ac a arweinir gan y brifysgol mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Bydd ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Eigion a Chanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor yn cynnal ymchwil cydweithredol, yn cynnwys arolygon morol, i gefnogi twf cynaliadwy'r sector ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru.
Mae'r sector ynni adnewyddadwy morol yn datblygu technolegau i fanteisio ar donnau ac adnoddau llanw ardderchog Cymru er mwyn creu ynni cynaliadwy. Mae'r ymchwilwyr yn bwriadu cynnwys arolygon o longddrylliadau o amgylch arfordir Cymru fel modelau o'r hyn a allai ddigwydd i unrhyw strwythurau a osodir yn yr un rhan neu mewn rhannau tebyg o wely'r môr.
Bydd delweddau sonar o'r llongddrylliadau hanesyddol, a dynnir o long ymchwil y brifysgol, Prince Madog, yn dangos sut mae'r llanw a'r cerrynt yn symud gwaddodion o amgylch y llongddrylliadau ar wely'r môr. Bydd yr eigionegwyr yn dysgu sut gall presenoldeb strwythurau ar wely'r môr newid y ffordd caiff gwaddodion eu cludo yn y dŵr neu eu gadael yno, a faint o amser mae hynny'n ei gymryd.
Meddai Dr Michael Roberts, un o brif ymchwilwyr y project:
"Mae'n hysbys bod strwythurau tanddwr megis llongddrylliadau a dyfeisiau MRE yn effeithio ar lif y dŵr o amgylch y strwythurau, yn dibynnu ar gynllun y strwythur, yn ogystal â chryfder a chyfeiriad llif y llanw a'r math o wely môr maent yn gorwedd arno. Ceir ffyrdd o fodelu effeithiau o'r fath ond fel yn achos pob techneg o'r fath, mae angen data arsylwadol i helpu i ddilysu a mireinio'r modelau hyn fel y gallant ddarparu gwybodaeth hanfodol i'r sector ynni adnewyddadwy morol ar raddfeydd manylach ac ar raddfa amser hwy. Y gobaith yw y bydd y data hefyd yn gwella ein dealltwriaeth o brosesau morol ar draws ystod o safleoedd ledled dyfroedd Cymru ac yn rhoi atebion i ddatblygwyr i rai cwestiynau sylfaenol ond pwysig iawn."
Ychwanegodd:
"Mae cydweithwyr hefyd yn edrych ar sut gall y strwythurau hyn weithredu'n effeithiol fel riffiau artiffisial sy'n effeithio ar bethau megis a ydynt yn denu nifer cynyddol o bysgod a sut mae gwahanol ddefnyddiau yn dylanwadu ar bio-faeddu. Y gobaith yw y bydd yr ymchwil hwn hefyd yn cefnogi'r sector o ran cynllunio seilwaith a datblygu systemau a strategaethau monitro effeithiol ac effeithlon i ddeall yn well y berthynas rhwng strwythurau bywyd a pheirianneg forol ar wely'r môr dros gyfnod o amser."
Bydd yr ymchwil hefyd o fudd i'r sectorau treftadaeth a thwristiaeth yng Nghymru ac yn gwella ein dealltwriaeth a'n gwerthfawrogiad o hanes morwrol hynod gyfoethog Cymru sy'n gysylltiedig â rhyfeloedd mawr yr ugeinfed ganrif.
Mae canlyniadau'r arolygon hyn eisoes yn darparu gwyddonwyr Bangor gyda delweddau o wely'r môr nas gwelwyd o'r blaen ar lefel digynsail o fanylder, megis yr ardal sy'n cynnwys llongddrylliad yr U-87 a gollwyd gyda phob un o'i 43 criw, ddiwrnod Nadolig 1917. Cafodd y llong danfor Almaenig ei dyrnu gan long o'r lynges Brydeinig yn fuan ar ôl suddo llong cargo gerllaw. Rhagwelir y bydd canfyddiadau'r gwaith yn cyfrannu at nodau ac amcanion project a gyllidir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ‘Commemorating the forgotten U-boat war around the Welsh coast 1914-18: Exploration, Access and Outreach’ dan arweiniad Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Meddai Deanna Groom, prif ymchwilydd y Comisiwn Brenhinol (Morwrol):
"Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am yr arolygon mae Prifysgol Bangor yn eu cynnal. Maent yn caniatáu i ni - am y tro cyntaf mewn can mlynedd efallai - weld creiriau'r Rhyfel Mawr sydd yn y môr ger ein harfordir ein hunain. Mae'r rhain yn gofebion tanddwr, ingol, sy'n ein hatgoffa o draul rhyfel ar fywyd. Llongau masnach a llongau tanddwr y gelyn, megis yr U-87, yn cwrdd oedd achos mwyafrif y 170 o golledion yn nyfroedd Cymru - hynny yw, o gymharu â cholledion a achoswyd gan longau'n mynd i gysylltiad â ffrwydron cyffwrdd. Mae gan bob safle ei stori wefreiddiol ei hun ac rydym yn gobeithio eu dysgu a'u hailadrodd,
Gweler hefyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Medi 2018