Lleoliadau o fri gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i dri myfyriwr coedwigaeth disglair o Fangor
Mae tri myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi sicrhau lleoliadau 12 mis gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel rhan o'u cyrsiau gradd BSc Coedwigaeth (gyda lleoliad rhyngosod). Byddant yn cael y cyfle i ddysgu am ddulliau CNC o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. CNC sy'n gyfrifol am reoli saith y cant o arwynebedd tir Cymru, yn cynnwys Ystad Coetir Llywodraeth Cymru, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, a llawer mwy, ac mae'n wynebu her sylweddol yn sgil galwadau cynyddol gan ddiwydiant a chymdeithas am bren, hamdden, storio carbon, bioamrywiaeth, iechyd a lles ymysg pethau eraill.
Mae Lamorna Richards, Jack Richardson ac Emyr Parker i gyd yn eu hail flwyddyn ar hyn o bryd a gofynnwyd iddynt am eu hymateb i鈥檙 newyddion am eu lleoliadau. Dywedodd Jack Richardson, oedd yn ysgolor cerddoriaeth yn Ysgol Oundle, 'Rydw i wrth fy modd! Rwyf wedi fy nghyfareddu gan fyd natur erioed, ac yn arbennig felly gan ein coed a choedwigoedd. Ar 么l gweithio ym maes rheoli manwerthu am sawl blwyddyn, penderfynais gymryd y cam a mentro i addysg uwch i astudio at radd mewn coedwigaeth. Wrth ddewis pa brifysgol i fynd iddi, golygai enw da Bangor ynghyd 芒鈥檌 lleoliad syfrdanol bod y penderfyniad yn un hawdd - ac mae Bangor yn bendant yn haeddu'r enw da hwnnw!鈥 Roedd Emyr Parker, siaradwr Cymraeg rhugl a chyn-ddisgybl yn Ysgol yr Hendre, Caernarfon, yr un mor falch: 鈥淩wyf wedi cyffroi ac yn ddiolchgar hefyd am gael cynnig cyfle mor werthfawr. Gan imi gael fy magu yng Ngogledd Cymru gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ar garreg fy nrws mae gen i ddiddordeb ers plentyndod mewn coedwigoedd, yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd. Bydd y lleoliad hwn yn fy ngalluogi i ennill profiad ymarferol ar yst芒d coetir Llywodraeth Cymru a meithrin dealltwriaeth o gynllunio, monitro a rheoli yng nghyd-destun gweithrediadau coedwigaeth, yn ogystal 芒 sawl agwedd wahanol ar y sector.鈥 Dywedodd Lamorna Richards, a gafodd ei magu yng Nghernyw: 鈥淩ydw i wedi bod wrth fy modd erioed 芒'r awyr agored, arfordiroedd a choetiroedd a gwyddwn fy mod eisiau gweithio yn yr awyr agored. Roedd y syniad o ddilyn cwrs gradd a oedd yn ymarferol ac yn academaidd yn apelio'n fawr ataf ac felly roedd coedwigaeth ym Mangor yn ddewis naturiol i mi - cyfle i astudio pwnc rwyf yn ei garu mewn lleoliad arfordirol. Mae鈥檔 gyffrous iawn imi gael y cyfle i weithio i Gyfoeth Naturiol Cymru a hefyd i ennill blwyddyn gyfan o brofiad. Bydd yn wych gallu rhoi'r hyn rydw i wedi'i ddysgu hyd yma ar fy nghwrs gradd ar waith yn ymarferol a gallu defnyddio'r hyn y byddaf yn ei ddysgu dros gyfnod y lleoliad yn fy mlwyddyn olaf o astudio.鈥
Mae Michael Cresswell, Arweinydd T卯m Gweithrediadau Coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, wedi bod yn allweddol yn sefydlu'r lleoliadau cyflogedig hyn. Y rhain fydd y cyntaf yn hanes CNC, ar 么l i'r sefydliad gwblhau'r gwaith hanfodol sy'n angenrheidiol er mwyn sefydlu polisi a threfnau lleoliadau. Elwodd Michael yn aruthrol ei hun o ddilyn lleoliad rhyngosod yn ystod ei astudiaethau ym Mhrifysgol Bangor, a dyna pam roedd yn awyddus i ddarparu cyfleoedd tebyg i goedwigwyr y dyfodol. Dywedodd Michael 鈥淢ae CNC yn cynnig lleoliad gwych i fyfyriwr allu cymryd rhan yn ein gwaith. Mae'r lleoliadau yn ein timau Rheoli Tir a Gweithrediadau Coedwigaeth. Bydd hynny鈥檔 golygu y bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan uniongyrchol ym mron pob agwedd ar goedwigaeth a rheoli tir. Bydd y lleoliadau wedi'u teilwra i bob myfyriwr yn seiliedig ar eu diddordebau, cynllun traethawd hir blwyddyn olaf a'r hyn sy'n gweithio i CNC. O ran golwg cyffredinol, gallai'r profiad yn uniongyrchol gynnwys unrhyw un, neu'r cyfan o'r canlynol; rheoli atebolrwydd cyfreithiol, rheoli'r Warchodfa Natur Genedlaethol, gwaith cadwraeth, diogelwch coed, gwaith cyswllt 芒'r gymuned a chymdogion, isadeiledd hamdden, cynllunio coedwigoedd, gweithrediadau coedwigaeth, plannu a chynnal coed. Yn anuniongyrchol, rydym hefyd yn gobeithio cael y myfyrwyr i gymryd rhan yn ein timau eraill ar draws CNC megis ein t卯m peirianneg integredig a'n t卯m rheoli bywyd gwyllt er mwyn rhoi dealltwriaeth iddyn nhw o gyd-destun eu gwaith a sut mae'r cyfan yn cyd-blethu.鈥漌rth drafod y newyddion, dywedodd James Walmsley, Cyfarwyddwr Cwrs y radd BSc Coedwigaeth, "Rwy'n hynod falch o'r datblygiad hwn gan fod lleoliadau rhyngosod yn cynnig profiad amhrisiadwy. Hoffwn ddiolch i Michael Cresswell a'i gydweithwyr yn CNC am gydnabod pwysigrwydd buddsoddi amser ac adnoddau yng ngweithwyr proffesiynol coedwigaeth y dyfodol. Does gen i ddim amheuaeth y bydd agweddau a gallu'r tri myfyriwr yma, tri llysgennad rhagorol i Brifysgol Bangor, yn creu argraff ar CNC. Rwy鈥檔 mawr obeithio y bydd hyn yn paratoi鈥檙 ffordd ar gyfer lleoliadau eraill yn y dyfodol, a fydd, rwy鈥檔 si诺r, yn cymell mwy o bobl i astudio coedwigaeth ar adeg pan fo angen y sgiliau hyn ar ein planed, ein cymdeithas a鈥檔 heconomi yn fwy nag erioed.鈥漎chwanegodd Sopan Patil, cydlynydd academaidd Lleoliadau Rhyngosod a darlithydd yn Ysgol y Gwyddorau Naturiol 鈥淢ae鈥檙 ffaith i Lamorna, Jack ac Emyr gael eu dewis i'r lleoliadau ardderchog hyn gyda CNC yn dystiolaeth o ansawdd ein myfyrwyr. Mae gan ein hysgol hanes hir o gynnig lleoliadau rhyngosod fel rhan o'n rhaglenni gradd. Dros y blynyddoedd, mae ein myfyrwyr wedi ennill profiad diwydiant gwerthfawr trwy gyfrwng lleoliadau yn y Deyrnas Unedig ac mewn sawl rhan arall o'r byd. Rwy鈥檔 hyderus y bydd Michael Cresswell a鈥檌 gydweithwyr yn CNC yn canfod bod ein myfyrwyr yn ddysgwyr eiddgar ac yn gyfranwyr gwerthfawr i鈥檞 sefydliad.鈥滶r gwaethaf yr ansicrwydd mawr yngl欧n 芒 chyfyngiadau presennol Covid-19, mae coedwigaeth wedi cael ei chydnabod gan Lywodraethau'r Deyrnas Unedig, yr Alban a Chymru fel diwydiant allweddol, sy'n darparu cynhyrchion hanfodol i'r sectorau iechyd, bwyd ac ynni.
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio rhaglen radd gysylltiedig ym Mhrifysgol Bangor, ewch i www.bangor.ac.uk/natural-sciences/subject-areas/forestry/ neu cysylltwch drwy e-bost: forestry@bangor.ac.uk / ff么n +44 1248 382881 / 2351 / cyfryngau cymdeithasol @BUForestry
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2020