Gwylwyr ledled Prydain i gael golwg ar fywyd o amgylch Y Fenai
Bydd gwylwyr teledu oriau brig ledled Prydain yn cael cyfle i ddod i wybod mwy am fywyd o amgylch Y Fenai gan fod cyfres boblogaidd ITV Cymru 'The Strait' i gael ei darlledu ar y sianel genedlaethol dan yr enw newydd 'The Island Strait' am 8.00pm ar ITV am bedair wythnos o 14 Medi.
Mae'r gyfres yn edrych ar fywydau pobl sy'n byw a gweithio ar Y Fenai - y culfor rhyfeddol sy'n gwahanu Ynys M么n oddi wrth dir mawr Cymru. Ymysg yr unigolion a gaiff sylw yn y gyfres mae Dr Mike Roberts o Brifysgol Bangor. Trwy lygaid nifer o ddynion a merched sy'n gweithio ar y culfor dramatig ac unigryw hwn, ac ar ei lannau, caiff gwylwyr gyfle i ddeall pa mor bwysig yw'r Fenai fel ased amgylcheddol.
Mae Mike, sy'n enedigol o F么n, yn gefnforegydd daearegol ac yn gymrawd ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion enwog ym Mhrifysgol Bangor. Daeareg f么r yw ei faes ac mae'n eithriadol frwd dros yr amgylchedd arfordirol nodedig hwn.
Yn y Fenai ei hun mae diddordeb Mike ac yn arbennig yn yr hyn sydd dan y tonnau, gan ei fod wedi ymchwilio i'r ffordd y ffurfiwyd y culfor a phryd y digwyddodd hynny. Mae ei waith wedi dangos y daeth unrhyw gyswllt tir rhwng M么n a'r tir mawr i ben tua 5,000 o flynyddoedd yn 么l. Mae deall beth sydd dan y m么r yn hollbwysig iddo yn ei swydd bresennol fel Rheolwr Ymchwil a Datblygu i'r project SEACAMS yn y Ganolfan Gwyddorau M么r Cymhwysol, sy'n cefnogi datblygiad y sector ynni m么r adnewyddadwy yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Mike yn ymwneud 芒 mapio llongddrylliadau o amgylch ein harfordir, gan y gallant ddatgelu llawer ynghylch sut y gall prosesau m么r ymateb pan gaiff offer ynni m么r adnewyddadwy eu gosod ar wely'r m么r.
Dyma oedd ganddo i'w ddweud am gymryd rhan mewn ffilmio'r gyfres:
"A finnau'n dod o F么n, dwi'n wirioneddol ffodus i gael swydd sy'n fy ngalluogi i weithio mewn amgylchedd dwi wedi ei hadnabod ar hyd fy oes, ond dwi'n fwy lwcus fyth fod y gwaith yma'n rhoi cyfle i mi weld y Fenai o bersbectif cwbl wahanol. Dwi'n ei theimlo'n fraint hefyd i fedru rhannu'r wybodaeth yma gyda chymunedau lleol ac unigolion sy'n byw a gweithio ar y Fenai, neu ddim ond yn ymweld yn achlysurol. Dwi'n falch fod y rhaglen yn cael ei dangos ledled Prydain, fel y gall pawb werthfawrogi mor arbennig o unigryw ydi'r rhan yma o'n harfordir mewn gwirionedd."
Y bobl eraill sy'n ymddangos yn y gyfres yw Frankie Hobro, sy'n rhedeg Sw M么r Ynys M么n ac sydd wedi graddio mewn Bioleg M么r o Brifysgol Bangor; Glyn Davies, sy'n ffotograffydd tirwedd; John Jones, pysgotwr cregyn gleision sy'n gweithio o Borth Penrhyn, Bangor; Stan Zalot, sy'n cynnal teithiau pleser yn ei gwch o Fiwmares ac Emrys Jones, sydd hefyd yn cynnal teithiau cwch o Gaernarfon ym mhen arall y Fenai; a'r hyfforddwyr chwaraeon d诺r, Jamie Johnson ac Ali Yates, sy'n gweithio yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Medi 2018