Gwyddonydd a darlithydd i arddangos ei gwaith mewn arddangosfa gelf genedlaethol o bwys ar fywyd gwyllt
Mae darlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor yn cadw cydbwysedd rhwng ei diddordeb gwyddonol mewn adar a chyfleu ei chariad tuag atynt mewn gwaith celf.
Mae gwaith celf Dr Rachel Taylor bellach wedi ei ddethol o blith 600 o geisiadau i ymddangos ynghyd 芒 gwaith gan rai o artistiaid bywyd gwyllt mwyaf blaenllaw Prydain. Mae鈥檙 arddangosfa i鈥檞 gweld yn y Mall Galleries rhwng 24 Hydref a 3 Tachwedd 2019.
Mae Rachel yn cyfrannu at gwrs gradd S诺oleg gydag Adareg yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol. Hi hefyd yw鈥檙 arweinydd gwyddonol yng Nghymru i鈥檙 British Trust for Ornithology, sefydliad anllywodraethol sydd wedi ei leoli yn Adeilad Thoday鈥檙 Brifysgol ym Mangor. Mae Rachel yn treulio cryn dipyn o鈥檌 hamser yn astudio adar, yn broffesiynol ac fel gwyddonydd-ddinesydd.
Mae wedi bod yn creu cerfluniaeth gwydr lliw am ychydig dros dair blynedd, ac wedi arddangos yn Oriel M么n, Llangefni ac yn flynyddol yn Ffair Adar Rutland. Mae ei gwaith yn mynegi ei chariad at adar a鈥檌 dealltwriaeth ohonynt hwy a鈥檜 hecoleg. Ond yn gynyddol bellach, mae鈥檔 ymdrin ag effaith gweithredoedd dynol arnynt hwy a鈥檜 cynefinoedd.
Meddai Rachel, sydd yn byw ger Llyn Padarn yn Llanberis:
鈥淣id yn unig rwyf yn caru adar am eu harddwch a鈥檜 rhyddid, rwyf hefyd yn eu gweld yn eu cyd destun ecolegol, ac yn eu deall yn ddigon da i鈥檞 cyfleu yn anatomegol gywir yn fy adar gwydr.
Mae gennym ystod mor eang o gynefinoedd yn lleol, o weundiroedd i welyau cyrs, o鈥檙 mynyddoedd i鈥檙 m么r - sydd yn ffynhonnell barhaus o ysbrydoliaeth! Rwy鈥檔 chwilio i gael cydbwysedd rhwng fy nghelfyddyd a鈥檙 wyddoniaeth. Fel gwyddonydd, mae鈥檔 rhaid i mi fod yn niwtral a ffeithiol gan gynnal safbwynt ar sail tystiolaeth yn fy ngwaith. Fel arlunydd rydw i鈥檔 rhydd i fynegi hapusrwydd a harddwch, ac yn ceisio rhoi emosiwn a gogwydd personol yn y gweithiau rwy鈥檔 eu creu. Mae nifer o wyddonwyr yn greadigol iawn, ac rwy鈥檔 credu bod y celfyddydau gweledol a鈥檙 ymateb emosiynol personol yn bwysig i鈥檙 broses o gyfathrebu gwyddoniaeth.鈥
Tri darn sydd gan Rachel yn yr arddangosfa genedlaethol: 鈥楥hough鈥, 鈥楬ostile Environment鈥 ac 鈥楿nder The Surface鈥
Bydd arddangosfa The Natural Eye yn cynnwys dros 350 o weithiau gan aelodau a etholwyd i Gymdeithas Artistiaid Bywyd Gwyllt ac artistiaid a ddetholwyd drwy gyflwyniad agored. Mae wedi ennill ei phlwyf fel y brif arddangosfa celfyddyd bywyd gwyllt yn y DU. Hon hefyd yw鈥檙 arddangosfa fwyaf amrywiol gyda gwaith yn cynnwys ystod o bynciau a ysbrydolwyd gan y byd naturiol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Hydref 2019