Gwyddonwyr Prifysgol Bangor yn dianc rhag y gwres i ymchwilio i ddiflaniad rhew m么r yn yr Arctig
Mae aelodau o y Brifysgol newydd ymuno 芒 mordaith ymchwil i Gefnfor yr Arctig. Mae鈥檙 swyddogion ymchwil Ben Powell a Ben Lincoln a'r fyfyrwraig PhD Suzie Jackson yn rhan o grwp ymchwil Ffiseg Cefnfor yr Ysgol. Bydd Dr Tom Rippeth a myfyriwr PhD arall, Josh Griffiths, yn ymuno 芒 nhw ymhen pythefnos.
Bydd t卯m Bangor yn cymryd mesuriadau yn y cefnfor i geisio gwella dealltwriaeth gwyddonwyr o effaith y lleihad yn rhew m么r yr Arctig yn yr haf ar gerhyntau'r cefnfor.
Gwelwyd y lefel isaf erioed mewn mwy na thri degawd o gofnodion yn 2011 yn 么l y a a chredir yn gynyddol y gallai鈥檙 diflaniad hwn fod yn rhannol gyfrifol am y tywydd garwach a welwyd yn y Deyrnas Unedig mewn blynyddoedd diweddar.
Mae鈥檙 rhew ym M么r yr Arctig yn crebachu bob haf, ond llynedd nid oedd ond 1.3 miliwn o filltiroedd sgw芒r ar 么l, sef llai na hanner y gwerth cyfartalog yn y 30 haf diwethaf. Mae arwynebedd y rhew sydd wedi diflannu tua 160 gwaith maint Cymru.
Aeth arweinydd y t卯m, Dr Tom Rippeth, ati i egluro arwyddocad y lleihad:
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld lleihad mawr yn y rhew sy'n arnofio ar wyneb Cefnfor yr Arctig yn ystod yr haf. Mae鈥檙 lleihad yn arbennig o amlwg ar ddiwedd yr haf, pan fydd arwynebedd y rhew yn cyrraedd ei leiafbwynt. Roedd y lleiafswm a gofnodwyd yn 2012 yn llawer llai na'r record ddiwethaf a osodwyd yn 2007, ac mae鈥檔 llai na hanner y gwerth cyfartalog ym mis Medi am y 30 mlynedd diwethaf. 鈥
鈥淢ae rhew鈥檙 m么r yn chwarae rhan bwysig iawn yn yr hinsawdd oherwydd mae鈥檔 gweithredu fel drych ac yn adlewyrchu pelydrau鈥檙 haul yn 么l i鈥檙 gofod. Mae hefyd yn gweithredu fel cap sy鈥檔 ynysu d诺r Cefnfor yr Arctig o'r atmosffer sydd yn llawer oerach. Oes nad oes rhew ar y m么r, mae pelydrau 鈥榬 haul yn cael eu hamsugno gan y cefnfor tywyll, gan gynhesu鈥檙 d诺r, ac yn ei dro mae鈥檙 d诺r agored yn colli gwres i鈥檙 atmosffer sy鈥檔 peri iddo gynhesu. Mae'r adborth positif hwn yn peri i鈥檙 rhew m么r doddi鈥檔 gynt yn yr haf.
Bellach ceir tystiolaeth gynyddol o newid yng nghydbwysedd yr hinsawdd a ysgogwyd gan yr holl wresogi ychwanegol yn yr Arctig, a gall y newid hwn yn fod yn rhannol gyfrifol o leiaf am y cynnydd mewn digwyddiadau tywydd eithafol a brofwyd mewn blynyddoedd diweddar. Un enghraifft o dywydd eithafol o鈥檙 fath yw tywydd yr haf diwethaf, sef y tywydd gwlypaf mewn dros 100 mlynedd yma yn y Deyrnas Unedig. Ar yr un pryd mae sawl rhanbarth yn yr Unol Daleithiau wedi cael ei daro gan sychdwr a gwres difrifol."
鈥淓r bod y cyfnodau o dywydd oer iawn a brofwyd yn ystod y gaeaf yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf ar draws canolbarth a gogledd Ewrop i weld yn gwrthddweud y duedd gynhesu byd-eang, ceir tystiolaeth hefyd sy'n cysylltu'r amodau tywydd eithafol hyn 芒'r lleihad yn arwynebedd rhew m么r yr Arctig yn yr haf.
Mae'r t卯m o Fangor yn gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgolion Rhydychen, Southampton a Reading, Coleg y Brifysgol Llundain, y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, Arolwg Antarctig Prydain, a鈥檙 Scottish Association for Marine Science dan nawdd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol i wella dealltwriaeth o effeithiau tebygol diffyg rhew yng Nghefnfor yr Arctig yn yr haf.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2013