Gwyddonwyr Morol Bangor yn cyfrannu at Gyngres Pysgodfeydd y Byd
Cafodd faner swyddogol ei drosglwyddo i Brifysgol Bangor bedair blynedd yn ôl ar ddiwedd y Gyngres ddiwethaf yn Yokohama, pan gymerodd yr Athro Michel Kaiser o Ysgol Gwyddorau Eigion yr awenau ar gyfer y 6ed Gyngres Pysgodfeydd Byd a fydd yn agor nesaf Dydd Mawrth 8 Mai yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Caeredin, Caeredin, Yr Alban.
Dywedodd yr Athro Kaiser: 'Mae'r ffaith bod 15 o'n staff a myfyrwyr ymchwil yn cyflwyno papurau yn y ddigwyddiad blaenllaw ym maes gwyddor pysgodfeydd byd eang yn brawf o’r arbenigedd cynyddol ar lefel rhyngwladol mewn gwyddor pysgodfeydd sydd ym Mhrifysgol Bangor'
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2012