Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2017
Cynhaliwyd y chweched seremoni Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr blynyddol yn ddiweddar. Roedd y noson i ddathlu鈥檙 safon uchel o addysgu a chymorth a geir ym Mhrifysgol Bangor.
Mae enwebiadau wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n dangos bod mwy a mwy o fyfyrwyr yn cydnabod pwysigrwydd ansawdd dysgu yn eu haddysg.
O鈥檙 900 enwebiad, enwebwyd pob math o staff am eu gwaith caled yn y Brifysgol dros 13 categori gwahanol. Eleni, roedd gwobr ychwanegol ar gyfer Ysgol y Flwyddyn, lle bu Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth yn fuddugol.
Dywedodd yr Athro Morag McDonald, Pennaeth yr Ysgol:
"Roedd yn noson wych i鈥檙 Ysgol ac yr oedd yn braf gweld ein staff a myfyrwyr yn cael eu henwebu am wobrau. Mae ennill gwobr Ysgol y Flwyddyn yn dystiolaeth bellach o'r awyrgylch arbennig o fewn yr Ysgol, gwaith caled staff a myfyrwyr a'r berthynas adeiladol sydd gan yr Ysgol gyda'i myfyrwyr."
Hefyd, cipiodd Dr Graham Bird o鈥檙 Ysgol gwobr Athro y Flwyddyn, dywedodd:
"Mae'n anrhydedd fawr i gael eich enwebu ar gyfer gwobr, heb s么n am ei hennill. Rwy鈥檔 ddiolchgar iawn i鈥檙 myfyrwyr a gymerodd yr amser i鈥檓 henwebu."
Nododd un o鈥檙 enwebiadau ar gyfer Dr Bird 鈥淕raham is extremely involved in the School from the Open Days where he addresses all involved, led our international fieldtrip to Tenerife which was incredibly well done, peer guiding schemes and has always been available for 1-to-1 meetings regarding assignments.鈥
Dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-Ganghellor (Myfyrwyr): "Mae鈥檙 Gwobrau Dan Arweiniad Myfyrwyr wedi eu sefydlu'n gadarn yng nghalendr y Brifysgol bellach ac mae digwyddiad eleni wedi bod yn llwyddiant mawr. Unwaith eto, roedd yr enwebiadau yn hynod ysbrydoledig ac yr oedd yn wych gweld cymaint o staff yn cael eu cydnabod am eu gwaith rhagorol. Mae'r gwobrau hyn yn gyfle da i bwysleisio'r gwaith gwych a wneir gan staff ar draws y Brifysgol ac yn rhoi gwybod i ni sut mae unigolion wedi cael effaith gadarnhaol ar brofiad addysgol ein myfyrwyr."
Dywedodd Helen Marchant, Is-lywydd Addysg a Lles yr Undeb ac un o drefnwyr y noson: 鈥淢ae bod yn rhan o鈥檙 Gwobrau yma yn brofiad gwych. Mae'r Gwobrau yn dathlu'r bartneriaeth rhwng staff a myfyrwyr, dylai fod yn rhywbeth y dylai pob prifysgol ymdrechu i greu.鈥
Llongyfarchiadau i enillwyr 2017:
Gwobr Addysg Cyfrwng Cymraeg
| Dr Nia Griffith | Ysgol Seicoleg |
Gwobr Cefnogaeth Fugeilio Eithriadol | Dr Lucy Huskinson | Ysgol Athroniaeth a Chrefydd |
Goruchwylydd Traethawd Hir/Thesis y Flwyddyn | Dr Peter Shapely | Ysgol Hanes ac Archaeoleg |
Gwobr Agored | Dr Thomas Caspari | Ysgol Gwyddorau Meddygol |
Gwobr Arloesi Myfyrwyr | Dr Andrew Davies | Ysgol Gwyddorau Eigion |
Gwobr Ryngwladol | Ali Khan | Canolfan Addysg Ryngwladol |
Athro Newydd y Flwyddyn | Rebecca Sharp | Ysgol Seicoleg |
Athro 脭l-radd y Flwyddyn | Joshua Andrews | Ysgol Athroniaeth a Chrefydd |
Gwobr Adran am Wasanaeth i Fyfyrwyr | Fiona Zinovieff | Gwasanaethau Anabledd |
Gwobr Arwr heb ei gydnabod | Paul Maclean | Gwasanaethau Eiddo a Champws |
Athro'r Flwyddyn | Dr Graham Bird | Amgylchedd, Adnoddau Naturiol, a Daearyddiaeth |
Aelod o Staff Cefnogi / | Iwan Davies | Ysgol y Gymraeg |
Aelod o Staff Cefnogi / | 罢卯尘 Gweinyddol Ysgol Peirianneg Electronig ac Ysgol Cyfrifiadureg | |
Ysgol y Flwyddyn | Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth |
Mwy o luniau ar dudalen .
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2017