Gweithfeydd ynni amrediad llanw 芒鈥檙 potensial i greu ynni
Yn ddamcaniaethol, gellid darparu un rhan o dair o鈥檙 anghenion ynni byd-eang yn defnyddio amrediad llanw'r byd, yn 么l adolygiad cynhwysfawr newydd o weithfeydd ynni amrediad llanw.
Mae'r adolygiad yn amcangyfrif y gellid cynhyrchu 5792 MWh yn defnyddio gweithfeydd ynni amrediad llanw - gan ddefnyddio morlynnoedd llanw a morgloddiau i drosi ynni rhagweladwy llanw a thrai cefnforoedd y byd. Fodd bynnag, mae 90% o'r adnoddau hynny mewn 5 gwlad yn unig, ac mae cyfran sylweddol o'r adnoddau hynny yn y DU ac yn Ffrainc.
Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi adolygiad o adnoddau ac optimeiddiad ynni amrediad llanw yn Renewable Energy, cyfnodolyn rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid. Mae'r adolygiad hefyd yn trafod sut y gellir optimeiddio gweithfeydd ynni morlynnoedd llanw, drwy fodelu'n fanwl, a thrwy optimeiddio dull gweithredu nifer o forlynnoedd llanw sydd wedi'u lleoli ar hyd arfordir, gan ddefnyddio cyfuniad o weithfeydd llanw yn unig, trai yn unig, a gweithfeydd sy'n cynhyrchu yn y ddau gyfeiriad.
Mae'r prif awdur, Dr Simon Neill, yn egluro, "Mae morlynnoedd llanw wedi cael sylw'n genedlaethol ac yn rhyngwladol yn sgil cyhoeddi "Adolygiad Hendry" yn 2017, a aeth ati i asesu'r achos economaidd dros weithfeydd ynni morlynnoedd llanw, ac a awgrymodd y gallai project "canfod y ffordd" ym Mae Abertawe fod yn gychwyn ar ddiwydiant byd-eang. Yn ddaearyddol, mae'r DU mewn lleoliad delfrydol. Mae yma nifer o ranbarthau sydd ag amrediad llanw helaeth o ganlyniad i nodweddion y rhan hon o'r sgafell Ewropeaidd."
Fodd bynnag, rhybuddiodd Dr Sophie Ward, un o awduron eraill yr astudiaeth, "er ei bod yn debygol y bydd morlynnoedd llanw yn llai ymwthiol na morgloddiau llanw (sy'n dueddol o groesi aberoedd cyfan), mae angen eu dylunio a'u cynllunio'n ofalus i leihau'r effaith ar yr amgylchedd lleol. Oherwydd bod potensial sylweddol ledled byd i weithfeydd ynni amrediad llanw, mae angen inni fonitro'n ofalus beth yw canlyniadau amgylcheddol tynnu ynni o'r llanw, a bod yn wyliadwrus o newid cynefinoedd naturiol drwy adeiladu strwythurau a chronni d诺r mewn morlynnoedd neu y tu 么l i forgloddiau."
Mae'r adolygiad hwn, a ysgrifennwyd gan nifer o awduron, yn ganlyniad i weithdy Cronfa Ddatblygu Ymchwil NRN-LCEE a gynhaliwyd yng Nghanolfan M么r Cymru ym Mhorthaethwy ar 17-18 Mai 2016.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2018