Enwi Cymdeithas Ddaearyddiaeth yn Gymdeithas y Flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor
Mae Cymdeithas Ddaearyddiaeth yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth wedi鈥檌 hanrhydeddu鈥檔 Gymdeithas y Flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor. Sefydlwyd y Gymdeithas hon yn 2004, a threchodd fwy na 80 o gymdeithasau eraill i gasglu鈥檙 wobr. Yn well fyth, mae鈥檙 Gymdeithas hefyd wedi ennill Gwobr Amgylcheddol 2012 am ei gwaith gyda Masnach Deg, yr Awr Ddaear ac Wythnos Mynd yn Wyrdd, a gafodd lawer o gyhoeddusrwydd. Ar ben hynny, cafodd Chris Bibby a Charlie Wild, myfyrwyr yn yr Ysgol Amgylchedd, gydnabyddiaeth bersonol, a鈥檙 ddau鈥檔 rhan o d卯m Cadeirydd y Gymdeithas Ddaearyddiaeth a enillodd Wobrau unigol Aur ac Arian, yn y drefn honno, yn y seremoni wobrwyo.
Mae鈥檙 pedair wobr a ddaeth i鈥檙 Gymdeithas Ddaearyddiaeth yn adlewyrchu ymdrech wych gan y pwyllgor a鈥檙 aelodau i godi proffil y Gymdeithas. Eleni, mae鈥檙 Gymdeithas Ddaearyddiaeth wedi lansio ymgyrch, dan arweiniad y Brifysgol a鈥檙 Ddinas, dros Fasnach Deg, gan dynnu sylw at ei phwysigrwydd trwy gyfres o ddigwyddiadau ar draws y Brifysgol a鈥檙 gymuned ehangach. Cafodd gweithgareddau鈥檙 Gymdeithas ym maes Masnach Deg gyhoeddusrwydd mewn papurau newydd lleol a chenedlaethol, a dywedwyd eu bod yn 鈥榩ontio鈥檙 agendor鈥 rhwng myfyrwyr a鈥檙 gymuned leol. Bu鈥檙 ymgyrch hefyd yn gymorth i amlygu鈥檙 Gymdeithas ar raddfa ehangach yng Ngogledd Cymru.
Mae gweithgareddau ychwanegol gan y Gymdeithas wedi cynnwys ymweliad 芒鈥檙 Amgueddfa Byd Natur yn Llundain, a gyllidwyd yn rhannol gan Ysgol yr Amgylchedd ac a oedd, yn 么l Undeb y Myfyrwyr, yn enghraifft wych o鈥檙 modd y gall cymdeithas weithio gyda鈥檌 Hysgol. Mae ffilmiau addysgiadol wedi鈥檜 dangos, gan dynnu sylw at faterion o bwys megis Llifogydd Byd-Eang ac Amaeth, Coffi Masnach Deg, a鈥檙 effaith a gaiff gweithgareddau bodau dynol ar ein hamgylchedd.
Meddai Cadeirydd y Gymdeithas, Chris Bibby, 鈥淢ae wedi bod yn flwyddyn wych i鈥檔 Cymdeithas, rydym i gyd yn falch dros ben o鈥檙 hyn yr ydym wedi鈥檌 gyflawni fel pwyllgor, ond ni fyddem wedi llwyddo oni bai am gyfranogiad unigolion yn ein digwyddiadau. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau 芒鈥檔 llwyddiant, gyda鈥檔 Swyddog Digwyddiadau presennol, a bydd Beth Dann, myfyrwraig Ddaearyddiaeth ym Mlwyddyn 2, yn ymgymryd 芒 Chadair y Gymdeithas. Gyda syniadau newydd cyffrous, ni all hyn ond ein helpu i dyfu, a chyda鈥檙 posibilrwydd o nawdd ar y gorwel, mae鈥檔 mynd i fod yn flwyddyn wych arall.鈥
Daw digwyddiadau鈥檙 flwyddyn hon i ben ddydd Gwener 11 Mai, gyda Dawns Haf y bydd 60 o fyfyrwyr Ysgol yr Amgylchedd o鈥檙 holl flynyddoedd yn bresennol ynddi.
Mae鈥檙 Gymdeithas Ddaearyddiaeth yn diolch i bawb am gymryd rhan, ac yn gobeithio gweld llawer o鈥檌 haelodau yn 么l y flwyddyn nesaf!
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2012