Dyfarnu Medalau Cwmni鈥檙 Brethynwyr i fyfyrwyr o Brifysgol Bangor
Cyflwynwyd Medalau鈥檙 Brethynwyr i fyfyrwyr o Brifysgol Bangor yn ddiweddar. Mae Cwmni鈥檙 Brethynwyr yn un o Gwmn茂au Lifrai hanesyddol Dinas Llundain, sydd bellach yn sefydliad dyngarol. Bob blwyddyn mae Cwmni鈥檙 Brethynwyr, yn garedig iawn, yn rhoi dwy fedal i鈥檞 dyfarnu i fyfyrwyr 么l-radd nodedig.
Ers dros gan mlynedd, mae鈥檙 Cwmni wedi bod yn gysylltiedig 芒 Phrifysgol Bangor, i ddechrau drwy roi grantiau sylweddol tuag at godi rhai o brif adeiladau鈥檙 Brifysgol, yn cynnwys y llyfrgell, y labordai gwyddoniaeth a鈥檙 Adran Peirianneg Electronig.
Yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (myfyrwyr) oedd yn arwain y seremoni, a John Giffard oedd yn cyflwyno鈥檙 medalau i鈥檙 myfyrwyr. Mae鈥檙 gwobrau pwysig hyn yn rhoi ystyriaeth i ansawdd ymchwil, addysgu a gwasanaeth y myfyriwr i鈥檙 Brifysgol a鈥檙 gymuned.
Enillodd Benjamin Butler, 25, o Cranleigh, Surrey fedal arian Cwmni'r Brethynwyr ac mae鈥檔 agos谩u at ddiwedd ei PhD mewn Geocemeg Forol. Astudiodd Benjamin am radd israddedig yn yr Ysgol Cemeg ac am radd 么l-raddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion cyn dechrau ar ei PhD yn 2012.
Meddai Benjamin: "Rwy'n falch iawn o fod wedi ennill y fedal hon yn gydnabyddiaeth am fy nghyfraniad fel myfyriwr 么l-raddedig. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn o gael cymorth hael gan fy ngoruchwyliwr, Undeb y Myfyrwyr a鈥檙 Brifysgol yng nghyswllt nifer o gyfrifoldebau yn ystod fy PhD. Mae鈥檙 cymorth hwn wedi fy ngalluogi i gymryd rhan mewn ymchwil, ymwneud 芒'r cyhoedd, a chymryd rhan yn chwaraeon y Brifysgol ac mae wedi rhoi profiad 么l-raddedig cyflawn a boddhaus imi. Gobeithio y bydd y profiad, a chydnabyddiaeth y wobr hon, yn fuddiol imi wrth geisio dilyn gyrfa yn y byd academaidd.鈥
Enwebwyd Benjamin am fedal gan yr Athro Hilary Kennedy, a ddywedodd: "Mae Ben yn un o'r myfyrwyr PhD gorau i mi eu goruchwylio. Yn ystod ei PhD gwnaeth gyfraniad sylweddol at waith ymchwil mewn amgylcheddau rhew m么r pegynol mewn tymheredd is-sero. Mae ei waith bob amser o'r safon uchaf fel y gwelir o鈥檙 nifer o wobrau y mae wedi鈥檜 hennill.
"Mae Ben wedi cyfrannu'n fawr at yr ysgol trwy roi arddangosiadau yn ystod Diwrnodau Agored a rhoi cyflwyniadau i'w gyd-fyfyrwyr. Mae hefyd wedi cynrychioli鈥檙 Ysgol a'r Brifysgol fel rhan o broject ymwneud 芒'r cyhoedd, gan gynnal gweithdai gwyddoniaeth ymarferol i dros 1000 o ddisgyblion ysgol gogledd Cymru."
Enillodd G茅raldine Derroire, 35, o Clermont-Ferrand, Ffrainc, fedal efydd y Brethynwyr. Mae G茅raldine yn y tri mis olaf o orffen ei PhD ar ecoleg coedwigoedd trofannol sych, drwy Raglen Doethuriaeth Erasmus Mundus FONASO (Forest and Nature for Society) yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth.
Dywedodd G茅raldine: "Rwy'n teimlo'n freintiedig iawn yn derbyn y wobr hon. Mae鈥檔 anogaeth wych ar adeg pan rwy鈥檔 ceisio gorffen fy PhD ac ar fin cychwyn ar yrfa ymchwil. Mae astudio ym Mhrifysgol Bangor wedi fy nghyfoethogi鈥檔 fawr. Rwyf wedi cael fy hyfforddi nid yn unig i wneud gwaith ymchwil, ond hefyd i fod yn ymchwilydd, diolch i'r profiad a'r cyfleoedd academaidd ehangach mae Prifysgol Bangor wedi eu rhoi i mi. Bu cael ymgymryd 芒 gweithgareddau addysgu yn arbennig o bleserus. Rwy'n ddiolchgar iawn i fy ngoruchwyliwr, Yr Athro John Healey, am ei gefnogaeth a鈥檌 arweiniad, ac i staff academaidd a gweinyddol yr Ysgol am ddarparu amgylchedd gwych i weithio ynddo."
Enwebwyd G茅raldine am y fedal gan yr Athro John Healy, a ddywedodd: "Trwy gydol ei hastudiaethau doethurol, mae G茅raldine wedi cymryd yr awenau deallusol yn ei phroject gan fod yn hynod ragweithiol wrth gynllunio a chynnal rhaglen ymchwil o ansawdd uchel. Roedd hyn yn gofyn iddi fuddsoddi cryn amser i ddysgu gwybodaeth a medrau newydd, ac o ganlyniad mae hi bellach yn wyddonydd gyrfaol gyda photensial uchel iawn. Mae ei hegni, ei phenderfyniad a'i gallu i addasu yng nghyd-destun amlddiwylliannol Costa Rica wedi caniat谩u iddi i gynnal cyfres uchelgeisiol o brojectau ymchwil maes llwyddiannus yno. Datblygodd gydweithrediad cryf gydag ymarferwyr cadwraeth ac adfer a gwyddonwyr rhyngwladol yn yr ardal."
Dywedodd John Giffard: "Rydym yn falch iawn o fod ym Mangor ac mae wedi bod yn ysbrydoliaeth i gwrdd 芒鈥檙 staff a Myfyrwyr. Rydym wedi gweld yr adeilad a'r cyfleusterau newydd gwych yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion a Pontio, y ganolfan celfyddydau ac arloesi newydd. Rydym wedi gweld gwaith gwych gan y myfyrwyr ac yr ydym yn falch iawn o allu eu cefnogi. Rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas gyda Phrifysgol Bangor, sydd wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd ac a fydd, gobeithio, yn parhau am flynyddoedd lawer i ddod."
Straeon Perthnasol
Medal efydd i Ben
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2016