Dringo i Gopa鈥檙 Denali
Bydd Will Hardy, myfyriwr flwyddyn gyntaf sy鈥檔 astudio Daearyddiaeth ym Mangor, yn mynd a鈥檌 ddiddordeb mewn dringo i鈥檙 lefel eithaf dros yr haf wrth iddo dreulio mis ar daith ddringo yng ngogledd America.
Wedi iddo ennyn cefnogaeth a nawdd gan nifer o gwmn茂au yn cynnwys T卯m P锚l-droed Arsenal, bydd Will sy鈥檔 20 oed ac o Guildford yn Surrey, yn dringo Denali, y mynydd uchaf yng ngogledd America. Eglurodd,
鈥淔el rhan o鈥檙 daith, mi fyddwn yn byw ar Denali yn Alasga am fis gan gario'r holl bethau y byddwn eu hangen. Mi ddewision ni Denali gan nad ydyw mor uchel 芒 rhai o gopaon eraill gan olygu y bydd mwy o ocsigen. Golyga hyn y bydd modd i ni geisio dringo llwybrau anoddach tra byddwn yno. Mae hefyd yn ardal hyfryd iawn sydd yn wahanol iawn i beth yr ydym yn ei weld o ddydd i ddydd.鈥
Agwedd allweddol yn eu llwyddiant i godi arian yw鈥檙 ffaith y bydd y gr诺p yn rhoi cyflwyniadau i blant ysgol yn dilyn y daith i annog cydweithio, gweithgaredd, her a chymhelliant personol. Ychwanegodd Will,
鈥淢i oedd codi arian yn gyfuniad o gysylltiadau da a chael y nerf i ofyn, fel dywedodd un cwmni wrthyf, 鈥渃hei di ddim byd heb ofyn鈥. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd y cyflwyniadau y byddwn yn eu cynnig am y daith a鈥檙 hyn sydd wedi arwain at y daith yn ysbrydoli eraill (yn enwedig pobl ifanc) i beidio bod ofn trio pethau newydd.
鈥淏ydd y daith yn fy ngalluogi i ddysgu mwy amdanaf i fy hun a sut yr wyf yn rhyngweithio ag eraill. Bydd hefyd yn creu atgofion y byddaf yn eu cadw am byth. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd y profiad yn fy ngalluogi i fynd ymlaen i ddringo mynyddoedd eraill ledled y byd.鈥
Dewisodd Will astudio鈥檙 cwrs BSc mewn Daearyddiaeth ym Mangor oherwydd lleoliad y Brifysgol a鈥檌 hagosrwydd i鈥檙 Wyddfa. Mae ei amser ym Mangor wedi ei ysbrydoli i groesawu heriau newydd a dangos iddo 鈥渙s ydych chi eisiau rhywbeth ddigon, mae yna bob amser ffordd o wneud iddo weithio.鈥
Y peth gorau am fod yn fyfyriwr ym Mangor yn 么l Will yw 鈥渂od mewn sefyllfa lle mae modd bod yn y ddarlith yn y bore ac yna bod allan gyda鈥檆h ffrindiau mewn ardal hyfryd yn y prynhawn.鈥
Bydd y daith hefyd yn pwysleisio ar bryderon amgylcheddol a bydd y gr诺p yn gwneud yn si诺r eu bod yn cael gwared 芒鈥檜 hoffer ac unrhyw sbwriel y maent yn dod ar ei draws ar y mynyddoedd.
Am fwy o wybodaeth am daith Will Hardy, darllenwch ei flog
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2012