Dr Prysor Williams yn derbyn Gwobr am ei gyfraniad i wyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
Derbyniodd Dr Prysor Williams, Uwch-ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Ysgol Gwyddorau'r Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Wobr Goffa Eilir Hedd Morgan yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg yn Abertawe neithiwr (Mercher 08 Mawrth 2017).
Mewn digwyddiad arbennig i ddathlu addysg uwch cyfrwng Cymraeg yr wythnos nesaf, cafodd yr academydd ifanc o Brifysgol Bangor yn cael ei gydnabod am ei gyfraniad sylweddol ym maes gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd Dr Prysor Williams, Uwch-ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, yn derbyn Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg.
Dyma wobr flynyddol sy鈥檔 cael ei chyflwyno am gyfraniad nodedig mewn ymchwil ac addysgu ym maes gwyddoniaeth cyfrwng Cymraeg.
Sefydlodd y Coleg y wobr hon er cof am Dr Eilir Hedd Morgan, darlithydd o dan nawdd y Coleg yn Ysgol y Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor. Roedd ei farwolaeth sydyn yn 2013 yn golled ddirfawr.
Mae Prysor yn ddarlithydd uchel ei barchymysg myfyrwyr ym maes rheolaeth amgylcheddol. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn eang ac yn cwmpasu gwyddor pridd, pathogenau, rheoli maetholion, ansawdd d诺r, clefydau da byw, dwysau cynaliadwy mewn amaethyddiaeth a sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Meddai Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
鈥淐red Prysor yn gryf mewn cyfathrebu gwyddoniaeth i gynulleidfa eang y tu allan i鈥檙 byd academaidd a daw 芒 gwyddoniaeth yn fyw I鈥檙 gynulleidfa hynny."
"Mae鈥檔 arbennig o addas eleni bod Prysor yn defrbyn y wobr hon gan ei fod wedi bod yn gyfaill agos i Eilir.鈥
Yn ystod y Cynulliad, roedd tri ysgolhaig blaenllaw yn derbyn Cymrodoriaeth gan y Coleg er mwyn cydnabod eu cyfraniadau allweddol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd, sef yr Athro Brynley F. Roberts, yr Athro Merfyn Jones a Dr Si芒n Wyn Siencyn.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2017