Diwrnod Fenwm Prifysgol Bangor yn denu rhai o brif arbenigwyr y maes
Fe wnaeth pobl o bob cwr o'r byd sy'n ymddiddori ym maes tocsinau deithio i Ogledd Cymru i ddigwyddiad blynyddol a drefnwyd gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor.
Ymunodd academyddion blaenllaw, arbenigwyr rhyngwladol a seren deledu â dros gant o bobl ar gyfer y gynhadledd Diwrnod Fenwm unigryw ym Mangor i drafod tocsicoleg a rhywogaethau gwenwynig.
Hon oedd y nawfed flwyddyn i'r digwyddiad gael ei gynnal ar ôl cael ei sefydlu gan gyn-fyfyriwr o Fangor, Dr Simon Maddock. Fe'i trefnwyd gan fyfyrwyr o Gymdeithas Herpetolegol y brifysgol, gyda chefnogaeth gan Gymdeithas Herpetolegol Prydain (BHS) a Phrifysgol Wolverhampton.
Roedd siaradwyr o bob cwr o'r byd yn y cyfarfod eleni, yn cynnwys cynrychiolydd Sefydliad Iechyd y Byd a chyfarwyddwr y Global Snakebite Initiative, Dr David Williams, ac ymchwilydd o'r Amgueddfa Bywyd Gwyllt, Dr Ronald Jenner.
Siaradodd Dr Wolfgang Wüster a Dr John Mulley, darlithwyr yn Ysgol Gwyddorau Naturiol y Brifysgol, yn y gynhadledd hefyd.
Drwy gydol y gynhadledd cafwyd sesiwn bosteri yn hyrwyddo ymchwil gyfredol yn y maes a nifer o stondinau. Hefyd roedd yr herpetolegydd adnabyddus ac wyneb cyfarwydd ar y teledu, Mark O'Shea, yn bresennol i lofnodi ei lyfr newydd, 'Snakes of the World'.
Meddai Rhiannon Williams, cadeirydd : "Mae'n rhyfeddol fod cymaint o bobl yn dod i'r Diwrnod Fenwm bob blwyddyn.
"Ynghyd â'r holl arbenigwyr a siaradwyr mae gennym lawer o fyfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol sy'n dod i'r achlysur o bob rhan o'r wlad. Maen nhw i gyd eisiau cyfarfod i drafod eu diddordeb ysol mewn tacsonau gwenwynig: o lorisiaid araf a chantroediaid, i nadroedd."
Dywedodd Dr John Mulley, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor:
"Mae Bangor yn ganolfan amlwg o ran addysgu ac ymchwilio mewn herpetoleg, yn enwedig fenwm a thocsinau - mewn gwirionedd, ni yw'r unig brifysgol yn y Deyrnas Unedig sy'n cynnig gradd mewn Sŵoleg gyda Herpetoleg."
"Roedd rhai o'r pynciau a drafodwyd yn y Diwrnod Fenwm eleni yn cynnwys defnyddio tocsinau o grwyn llyffantod i drin afiechydon a'r problemau sy'n gysylltiedig ag atal a thrin brathiadau nadroedd yn y trofannau.
"Mae'r math hwn o ddigwyddiad yn rhoi cyfle inni dynnu sylw at y gwaith sy'n cael ei wneud ym Mangor ac yn dangos pa mor rhagweithiol a brwdfrydig yw ein myfyrwyr," ychwanegodd Dr Mulley.
Fe wnaeth raffl a gynhaliwyd ar y diwrnod gasglu £350 at y Global Snakebite Initiative.
Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yn y DU sy'n cynnig gradd mewn Sŵoleg gyda Herpetoleg.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019