Dathlu Cyflogadwyedd Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Cynhaliwyd y Dathliad Cyflogadwyedd blynyddol yn Neuadd Reichel yn ddiweddar i longyfarch myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau i wella eu cyflogadwyedd ac wedi arddangos ymrwymiad arbennig i ddatblygu鈥檔 broffesiynol.
Roedd staff academaidd, myfyrwyr a chyflogwyr yn bresennol, ac roedd y digwyddiad yn gyfle i wobrwyo Gwobrau Rhagoriaeth Cyflogadwyedd i fyfyrwyr wedi eu henwebu gan staff ar draws y Brifysgol. Eleni, roedd categor茂au newydd o wobrau, gan gynnwys 鈥業ntern y Flwyddyn鈥 a Gwobr Rhagoriaeth Undeb y Myfyrwyr.
Llongyfarchiadau i鈥檙 enillwyr:
Coleg y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau: Siwan Jones (Astudiaethau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau)
Coleg Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas: Maxime Aumaitre (y Gyfraith) a Meinir Owen (Addysg)
Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad: Franziska Kreutner (Seicoleg)
Coleg Gwyddorau Naturiol: Lara Pritchard (Daearyddiaeth)
Coleg Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol: Kathryn Howard (Peirianneg Electronig)
Intern y Flwyddyn: Benedict Blackledge (Gwyddorau Eigion)
Intern y Flwyddyn (Ail safle): Mark Barrow (Hanes)
Gwobr Rhagoriaeth yr Undeb Myfyrwyr am Gyflogadwyedd: Luke Bidder (Addysg)
Gwobr GCB Meistr: Si Jing Tan (Seicoleg)
Roedd y noson hefyd yn gyfle i wobrwyo Gwobrau Rhagoriaeth mewn Menter gan Prifysgolion Santander i fyfyrwyr oedd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau a chystadlaethau menter yn ystod y flwyddyn.
Cyflwynwyd gwobr olaf y noson, Gwobr Rhagoriaeth i Gyflogwr, i Horizon Nuclear Power am eu hymrwymiad i helpu datblygu cyflogadwyedd myfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae鈥檙 wobr yma yn dilyn arwyddo memorandwm o ddealltwriaeth rhwng Horizon a鈥檙 Brifysgol yn Ionawr2015, ac enwebiad diweddar ar gyfer Gwobr AGCAS yn y Gwobrau Cenedlaethol Target Jobs i gyflogwyr sy鈥檔 cynnig cefnogaeth ardderchog i Wasanaethau Gyrfaoedd.
Wrth dderbyn y wobr dywedodd Richard Foxhall, Rheolwr Cysylltiadau Rhanddeiliaid ar gyfer Horizon Nuclear Power 鈥淩wy鈥檔 hapus iawn i dderbyn y Wobr yma ar ran Horizon. Rydym yn ymroddedig i ddatblygu gweithlu lleol, a chydnabod fod cyflogwyr ym mhob sector yn chwilio am fwy na cymwysterau academaidd yn unig. Mae sgiliau cyflogadwyedd mor bwysig, ac mae buddsoddi mewn datblygu myfyrwyr a鈥檜 helpu i ddarparu ar gyfer cyflogaeth yn hanfodol. Mae cyfleoedd ar gael ar draws y sector ynni isel mewn carbon, ac rydym yn cydnabod yr angen busnes i gefnogi Prifysgol Bangor i ddatblygu gweithlu鈥檙 dyfodol.鈥
Yn ystod y digwyddiad, clywyd cyflwyniadau diddorol ac amrywiol gan fyfyrwyr yn rhannu eu profiadau a鈥檜 hadlewyrchiadau o ddatblygu eu cyflogadwyedd yn y Brifysgol. Yn cyflwyno roedd Laura Jager (y gyfraith), Lara Pritchard (Daearyddiaeth), Andrew Leavers (Cyfrifiadureg) a Paula Noon (Dylunio Cynnyrch). Roedd t卯m Enactus y Brifysgol hefyd wedi rhoi cyflwyniad eu prosiect cymunedol newydd, Y Bont.
Mae modd gweld yr holl luniau o鈥檙 noson ar dudalen y Wobr Gyflogadwyedd.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mai 2016