Cynhadledd bwysig ynghylch Cynaliadwyedd M么r Iwerddon
Mae cynhadledd bwysig wedi鈥檌 chynnal ynghylch rheoli pysgodfeydd ym M么r Iwerddon. Daeth arbenigwyr ac academyddion o Gymru, Iwerddon ac Ewrop ynghyd ar ei chyfer.
Trafodwyd sawl mater yn ystod y 4SeaConference a gynhaliwyd yn swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno gan gynnwys cynaliadwyedd stociau pysgod cregyn yn y dyfodol ac effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd. Bu鈥檔 bosibl cynnal y gynhadledd drwy gymorth gan raglen Drawsffiniol Cymru ac Iwerddon yr UE.
Daeth arbenigwyr ym maes gwyddoniaeth, cynrychiolwyr o ddiwydiant a defnyddwyr eraill M么r Iwerddon ynghyd yn y gynhadledd er mwyn trafod canllawiau ynghylch addasu a lliniaru ar gyfer rheoli M么r Iwerddon yn y dyfodol a sicrhau defnydd cynaliadwy ohono. Bydd canlyniadau鈥檙 gweithdai a gynhaliwyd yn llywio polis茂au yn y dyfodol ynghylch M么r Iwerddon.
Dywedodd y Weinidog Adnoddau naturiol a Bwyd, , Alun Davies:
鈥淏ydd holl ystod yr arbenigedd sydd wedi dod ynghyd ar gyfer y gynhadledd hon o gymorth mawr wrth ddatblygu strategaethau ymarferol ynghylch cynaliadwyedd economaidd a chynaliadwyedd amgylcheddol yr adnodd hollbwysig hwn a rennir. Bydd y cyfraniadau yn allweddol ac yn sail i ddeddfwriaeth yn y dyfodol, polis茂au a dulliau rheoli M么r Iwerddon.鈥
Ymysg siaradwyr y gynhadledd roedd:
鈥r Ian Shepherd 鈥 y Comisiwn Ewropeaidd
鈥r Geoffrey O鈥橲ullivan, Sefydliad Morol Iwerddon
鈥r Michael Bell, Prifysgol Heriot-Watt
鈥r Simon Neill, Prifysgol Bangor
鈥r Athro Andrew Rowley, Prifysgol Abertawe
鈥r Matthew Longshaw, Canolfan Wyddonol Pysgodfeydd a Dyframaethu
鈥r Sarah Culloty, Coleg Prifysgol Cork
Trefnwyd y gynhadledd gan SUSFISH sef prosiect cydweithredol tair blynedd sydd wedi canolbwyntio ar gynaliadwyedd M么r Iwerddon.
Caiff ei hariannu gan raglen Trawsffiniol Cymru Iwerddon a鈥檌 rheoli gan Gynulliad Rhanbarthol De a Dwyrain Iwerddon (SERA) mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru. Mae鈥檙 rhaglen yn ariannu cyfanswm o 41 o brosiectau ac mae鈥檔 derbyn tua 拢40m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ar hyn o bryd er mwyn datblygu gweithgareddau ar y cyd a fydd yn hybu twf economaidd a sgiliau a hefyd yn diogelu鈥檙 amgylchedd ar ddwy ochr M么r Iwerddon.
Mae Prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Cork ac Abertawe ynghyd ag arbenigwyr o feysydd amrywiol iawn ynghlwm wrth y prosiect SUSFISH.
Dywedodd Dr Shelagh Malham, Cyfarwyddwr Prosiect ym Mhrifysgol Bangor:
鈥淭rwy gefnogi鈥檙 prosiect SUSFISH mae rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Cymru ac Iwerddon wedi pwysleisio pwysigrwydd cydweithio ar draws M么r Iwerddon er mwyn ceisio datrys problem newid yn yr hinsawdd sy鈥檔 gyffredin i bawb. Dengys canlyniadau鈥檙 prosiect fod disgwyl i鈥檙 newid yn yr hinsawdd newid cerrynt y m么r a鈥檙 man y caiff larfau pysgod cregyn eu cludo. Ymddengys fod newidiadau mewn tymheredd ac asideiddio yn cael effaith lefel isel ar organebau a gallai eu clefydau effeithio ar botensial economaidd M么r Iwerddon. Bydd modd creu canllawiau ynghylch rheoli yn y dyfodol yn sgil y gynhadledd er mwyn sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol a chynaliadwyedd economaidd M么r Iwerddon.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2013