Cynaeafu data amgylcheddol gydag ap
Mae economi Cambodia ymysg yr econom茂au sydd yn datblygu gyflymaf yn y byd. Mae鈥檙 wlad yn symud o economi wledig i un ddiwydiannol a dinesig yn gyflym iawn, ond mae鈥檙 llywodraeth hefyd, yn ei hawydd i ddatblygu, yn awyddus i fod yn gynaliadwy ac i beidio 芒 cholli adnoddau naturiol gwerthfawr.
Bydd ymchwil newydd gan wyddonwyr amgylcheddol a chymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd 芒 chydweithwyr ym Mhrifysgol Efrog Newydd (UDA) a chorff anllywodraethol yn Cambodia, Keosothea Nou (Cymdeithas Datblygu Cymunedol, Cambodia) yn rhoi golwg gyffredinol ar adnoddau amgylcheddol y wlad, a sut y c芒nt eu defnyddio gan unigolion gwahanol. Bydd y wybodaeth yn helpu鈥檙 llywodraeth i ddatblygu polis茂au cynaliadwy i鈥檙 wlad rymus hon. Mae hwn yn un o 13 project newydd a gyllidir drwy gais ESRC Transformative Research.
Bydd y project yn defnyddio rhwydwaith ff么n symudol gwych y wlad er mwyn ymwneud 芒鈥檙 boblogaeth a chasglu data drwy 鈥榓p鈥 ff么n symudol sydd wedi ei ddatblygu ar gyfer y project.
Tra bo鈥檙 rhan fwyaf o arolygon yn digwydd unwaith ac am byth, bydd yr arolwg yma yn archwilio, ar lefel unigolion, sut mae pobl yn ymwneud 芒鈥檙 amgylchedd a鈥檌 ddefnyddio bob wythnos dros gyfnod o flwyddyn.
Fel yr esbonia Simon Willcock, sydd yn arwain yr ymchwil:
鈥淢ae pob un ohonom yn defnyddio natur ar gyfer 鈥榞wasanaethau鈥 elfennol, boed yn ddarparu bwyd neu dd诺r ac adnoddau naturiol eraill i ni, ond hefyd rydym yn defnyddio鈥檙 byd naturiol o鈥檔 cwmpas i sawl perwyl arall, o fynd 芒鈥檙 ci am dro i chwaraeon a mwynhau picnic. Drwy ganolbwyntio polis茂au ar gynhyrchu bwyd, er enghraifft, byddai perygl o golli golwg ar adnoddau hanfodol eraill, fel sicrhau mynediad i gefn gwlad ar gyfer hamddena. Mae angen i Lywodraeth Cambodia fedru rheoli tir heb unrhyw ragfarn o blaid unrhyw un gweithgaredd neu adnodd neilltuol.
鈥淩ydym am gasglu data ynghylch pwy sy鈥檔 defnyddio鈥檙 amgylchedd naturiol, lle a sut, fel y gall y wlad gadw golwg ar bob agwedd ar y tir fel adnodd hanfodol.
鈥淩ydym angen gwybod sut mae pobl yn ystyried ac yn defnyddio鈥檙 adnoddau naturiol o鈥檜 hamgylch, a sut y gall hyn newid gyda鈥檙 tymhorau. Er enghraifft, efallai bod trigolion dinesig yn defnyddio鈥檙 amgylchedd ar gyfer hamdden, tra nad yw ffermwyr cefn gwlad yn gwneud hynny i鈥檙 un graddau, gan eu bod wedi treulio eu diwrnod gwaith yn yr awyr iach.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2018