Cyn-fyfyriwr yn lansio gwasanaeth gwersylla clogwyn herfeiddiol
Llun: ©2015 john houlihan.com
Does dim angen i chi wirioni â’r awyr agored i astudio ym Mhrifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae’r nodwedd benodol yma wedi galluogi cyn-fyfyriwr o , i droi ei angerdd i mewn i fusnes unigryw llwyddiannus.
Ar ôl graddio yn 2011 gyda gradd mewn Datblygu Cynaliadwy, sylweddolodd Sam Farnsworth, 26, o Swydd Dyfnaint nad oedd yn addas ar gyfer gweithio mewn swyddfa, felly defnyddiodd ei radd a’i gymwysterau mynydda proffesiynol i sefydlu cwmni gweithgareddau antur ei hun yn Llanberis, sef .
Mae’r cwmni nawr yn cynnwys gweithgaredd unigryw, sef gwersylla ar glogwyn. I’r rhai sy’n ddigon dewr, mae modd gwersylla wrth hongian â rhaffau ar silff gludadwy ar glogwyn yn Rhoscolyn, Ynys Môn.
Esboniodd Sam: "Daeth y syniad ar ôl treulio llawer o amser yn defnyddio silff gludadwy wrth ddringo clogwyni anferth yn y Yosemite a Venezuela. Mae'n lle anhygoel i dreulio amser ac ychydig iawn o bobl, hyd yn oed dringwyr profiadol, sy’n cael y profiad yma. Rydym nawr yn gallu cynnig y profiad antur unigryw yma i gynulleidfa ehangach. Mae hefyd yn gwneud synnwyr i gynnig rhywbeth nad oes neb arall yn y wlad yn ei gynnig, mae’n ein gwahaniaethu o fusnesau eraill.
"Roedd cychwyn y cwmni yn ffordd i mi i bontio fy angerdd am yr amgylchedd, datblygiad cynaliadwy, dringo a mynydda. Cynaliadwyedd yw nod Gaia Adventures drwy'r ffordd yr ydym yn rhedeg y busnes a hefyd trwy gynnwys ein cyrsiau. Mae'r ffordd yr ydym yn rhyngweithio â'r byd naturiol yn datgysylltu oddi wrth yr effeithiau a gawn ar y blaned a'n gilydd. Mae rheoli risg a gwneud penderfyniadau yn rhan o brofiadau awyr agored, ac mae’n bosib gweld y camau gweithredu a’r canlyniadau. Nid yw hyn yn wir gyda nifer o rannau o’n bywydau, felly mae treulio amser yn yr awyr agored yn ffordd bwerus o gael pobl i feddwl am eu heffaith, a sut i'w gwneud yn un gadarnhaol.
"Mae gennym gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol, felly cadwch lygaid ar Gaia Adventures!"
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2015