Cregyn M么r a Newid Hinsawdd 3edd Gynhadledd Ryngwladol mewn Sglerogronoleg (ISC2013) Caernarfon, Gogledd Cymru, y Deyrnas Unedig - Dydd Sul 19 Mai tan ddydd Mercher 22 Mai 2013
Mae cynhadledd ryngwladol o bwys yn cael ei chynnal yn gan wyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor. Bydd gwyddonwyr o bob cwr o'r byd - gan gynnwys Japan, Awstralia, India, Ynysoedd y Falkland, Canada ac UDA yn ogystal 芒 rhai o bob rhan o Ewrop a'r DU - yn trafod sut maen nhw'n defnyddio cregyn, cwrelau ac esgyrn i astudio newidiadau sy'n digwydd yn awr ac yn y gorffennol yn yr amgylchedd morol. Mae'r testunau trafod yn cynnwys hinsawdd forol y gorffennol, bioleg, ecosystemau, pysgodfeydd ac archaeoleg.
Meddai Dr Paul Butler o ym Mhrifysgol Bangor 鈥淵n y gynhadledd ddiwethaf dair blynedd yn 么l, enillon ni bleidlais i gynnal y gynhadledd hon yng Nghaernarfon yn wyneb cystadleuaeth gref gan rai o Ffrainc a Japan. Pwysleisiwyd y cyfleusterau sydd ar gael yn Galeri a'r lleoliad prydferth, traddodiad hanesyddol Caernarfon, a'r amgylchfyd naturiol trawiadol, ac roedd yn amlwg bod y pethau hyn wedi apelio at y cynadleddwyr.
"Gwnaed ymchwil ddifyr iawn yn y maes hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gan gynnwys darganfod yr anifail mwyaf hirhoedlog sy'n adnabyddus i wyddonwyr (gwyddonwyr ym Mangor a wnaeth y darganfyddiad hwn). Gan fod crynodiad carbon deuocsid yn atmosffer y ddaear bellach yn cyrraedd yr un lefelau ag a welwyd ddiwethaf tua 3 miliwn o flynyddoedd yn 么l, gallwn ddefnyddio cregyn ffosilau o'r cyfnod hwnnw i ddarganfod yr effaith ar yr amgylchedd morol, a bydd hyn yn ein helpu i ragfynegi canlyniadau鈥檙 newid presennol yn yr hinsawdd sy'n ganlyniad i weithgarwch dyn.
鈥淕allwn wneud pethau eraill hefyd; er enghraifft gallwn ddefnyddio cregyn i fesur amodau dechreuol ar safleoedd projectau seilwaith morol megis tyrbinau gwynt a llanw, fel y gellir gweld eu heffeithiau ar yr amgylchedd lleol yn y tymor hir.
"Yn y gynhadledd byddwn yn cyfnewid syniadau, yn datblygu projectau cydweithredol newydd ac yn cynllunio'r ffordd ymlaen yn y maes. Edrychwn ymlaen at wythnos gyffrous a chynhyrchiol. Croeso i chi ddod i'n gweld wrth ein gwaith - mae cinio bwffe wedi ei gynnwys yn y pris dyddiol.
Cynhelir y 3edd Gynhadledd Ryngwladol mewn Sglerogronoleg (ISC2013)yn Galeri, Caernarfon, gogledd Cymru, DU rhwng dydd Sul 19 a dydd Mercher 22 Mai. Bydd y sesiynau'n agored i'r cyhoedd, am 拢100 y diwrnod (拢70 i fyfyrwyr PhD a 拢30 i israddedigion a myfyrwyr meistr). Dylid talu wrth y ddesg yn y dderbynfa. Cewch olwg ar y rhaglen yma:
Yn dilyn y gynhadledd bydd wythnos maes, a gynhelir yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor, ym Mhorthaethwy, lle bydd gwyddonwyr ifanc yn dysgu technegau gweithio gyda chregyn, trwy wylio arddangosiadau gan arbenigwyr profiadol o UDA, yr Almaen a Chymru.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mai 2013