Cregyn bylchog yn datgelu cyfrinachau newid yn yr hinsawdd forol
Mae gwyddonwyr morol o yn y Brifysgol yn casglu data defnyddiol am newid yn yr hinsawdd forol- a hynny o fan annisgwyl- cregyn m么r.
Sclerocronolegwyr ydynt- neu wyddonwyr sydd yn astudio鈥檙 cylchoedd tyfiant ar gregyn m么r. Maent yn medru casglu ystod o wybodaeth fanwl gywir o ran dyddiad am yr amgylchedd lle bu鈥檙 cregyn yn tyfu. Mewn modd tebyg iawn i鈥檙 ffordd mae dendocronolegwyr yn dyddio coeden drwy gyfri鈥檙 cylchoedd yn y bonyn, mae鈥檙 gwyddonwyr ym Mangor yn medru cyfrifo oed y cregyn yn fanwl gywir drwy astudio鈥檙 cylchoedd a鈥檙 haenau tyfiant ynddynt. Yn yr un ffordd 芒 choed, mae cregyn bylchog yn creu un cylch neu haen o dyfiant y flwyddyn, ac fel gyda choed, gellir mesur maint y tyfiant y flwyddyn honno trwy fesur lled yr haen. Wrth ddadansoddi鈥檙 deunydd o fewn y gragen yn fanylach, daw rhagor o wybodaeth i鈥檙 amlwg. Wrth ddadansoddi agweddau gwahanol ar wneuthuriad cemegol y gragen, mae鈥檙 gwyddonwyr yn medru canfod gwahanol nodweddion yr amgylchedd yr oedd yn byw ynddo.
Gan ddefnyddio gwybodaeth o gregyn sy鈥檔 fyw ac o hen gregyn sy鈥檔 gorwedd ar wely鈥檙 m么r, mae鈥檙 t卯m ym Mhrifysgol Bangor wedi medru cyfrifo tymheredd y cefnfor yn y man lle casglwyd y cregyn. Oherwydd eu bod yn gwybod yn union pa bryd yr oedd y cregyn yn tyfu, maent yn medru adeiladu cofnod o dymheredd y m么r dros gyfnodau maith o amser.
Mae鈥檙 Athrawon James Scourse a Chris Richardson yn arwain yr ymchwil hon yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion gyda Paul Butler a Dr David Reynolds. Meddent: 鈥淢ae ein hymchwil yn darparu data unigryw ar y modd y mae newid hinsawdd yn effeithio ar y cefnfor. Yr hyn mae ein techneg yn ei gynnig yw modd o ddatgelu tymheredd y m么r yn flynyddol yn ystod cyfnod cyn bod offer cofnodi ar gael.鈥
Daw鈥檙 cregyn a ddefnyddir gan y t卯m yn eu hymchwil o rywogaeth cragen fylchog y quahog (Arctica islandica). Mae鈥檙 cregyn hyn yn tyfu yn nyfroedd oerach y Gogledd yr Iwerydd, ac yn cael eu defnyddio鈥檔 fasnachol fel abwyd pysgod ac fel un o gynhwysion clam chowder mewn rhai lleoedd. Mae鈥檙 cregyn bylchog hyn yn arbennig o hirhoedlog, roedd yr hynaf y mae鈥檙 t卯m wedi cyfrifo ei oed wedi byw am 507 o flynyddoedd.
Mae gan y Gr诺p ddiddordeb hefyd yn y mecanwaith biolegol sy鈥檔 galluogi鈥檙 cregyn bylchog i fyw cyhyd.
Bu eitem ar yn rhoi sylw i'w gwaith (26.9.13)
Dyddiad cyhoeddi: 26 Medi 2013