Consortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W)
Yn ddiweddar bu Sophie Wilmes o , myfyrwraig PhD blwyddyn gyntaf gydag HPC Cymru, yn bresennol mewn gweithdy yn trafod y defnydd o Gyfrifiadura Perfformiad Uchel (HPC) mewn rhaglenni modelu llanwau, a gynhaliwyd yng nghartref urddasol y Gymdeithas Frenhinol.
鈥淢ae pob model yn anghywir yn ei hanfod, ond mae rhai'n ddefnyddiol鈥. Felly dywedodd un unigolyn adnabyddus sydd wedi modelu system y ddaear, a dyma oedd thema gyson y gweithdy.
Er bod modelau llanwau鈥檔 anghywir, ar y cyfan mae rhagfynegiadau ar sail y modelau hyn yn fwy cywir na mathau eraill o fodelau gan fod y llanw鈥檔 un o'r rhannau hawsaf eu rhagfynegi yn system y ddaear. Pe na bai hyn yn wir, byddai tablau llanwau'r un mor bell ohoni 芒 rhagolygon y tywydd.
Ymysg pethau eraill, mae rhagfynegiadau o lifogydd arfordirol a mesur cyfradd doddi Llen Ia'r Ynys Las yn dibynnu ar gywiriadau llanwau, ac mae modelau llanwau鈥檔 hanfodol bwysig ar gyfer asesu adnoddau ynni'r llanw, manteisio i鈥檙 eithaf ar osodiadau p诺er y llanw a rhagfynegi effaith cynlluniau p诺er y llanw. Y rhaglenni hyn 鈥 a鈥檙 systemau HPC oedd eu hangen i redeg y modelau 鈥 oedd canolbwynt y gweithdy a fydd yn arwain at geisiadau am gyllid yn y dyfodol agos.
Eglurodd Sophie Wilmes y rhyngweithiadau rhwng llanwau a llenni ia i鈥檙 25 o wyddonwyr o Awstralia, Japan a鈥檙 Deyrnas Unedig. Mae gr诺p y Deyrnas Unedig yn cynnwys ymchwilwyr o Goleg Imperial, Llundain, ac o Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor.
Cyllidwyd y Gweithdy gan Weinyddiaeth Economi, Masnach a Diwydiant Japan trwy gyfrwng Labordai Ewrop Fujitsu, ac fe鈥檌 trefnwyd gan Gonsortiwm Newid Hinsawdd Cymru (C3W).
Dyddiad cyhoeddi: 12 Rhagfyr 2012