Astudiaeth newydd yn dangos cysylltiad rhwng gradd tir amaethyddol ac ansawdd dŵr afonydd mewn dalgylchoedd gwledig
Mae astudiaeth newydd, a gynhaliwyd gan dîm o ymchwilwyr o Brifysgol Bangor, wedi dangos bod cysylltiad cryf rhwng ansawdd dŵr yn afonydd Conwy a Chlwyd yng Ngogledd Cymru â gradd y tiroedd amaethyddol yn eu priod ddalgylchoedd.
Roedd yr ymchwil, a gyhoeddwyd yn y Journal of the American Water Resources Association (), yn cynnwys casglu samplau dŵr nant bob yn ail wythnos o bum safle samplu dros gyfnod o dri mis (Medi - Tachwedd 2018). Dadansoddwyd y samplau wedyn yn y labordy i fesur chwe newidyn ansawdd dŵr: pH, Dargludedd Trydanol, ffosfforws, nitrad a chrynodiadau amoniwm, a chyfrif colifform bacteriol.
Eglura Elizabeth Crooks, prif awdur yr astudiaeth, a raddiodd gyda BSc mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Bangor:
“Ein nod oedd gweld beth yn union oedd effeithiau defnydd tir a rheoli tir ar ansawdd dŵr afonydd Conwy a Chlwyd. I'r perwyl hwn, fe wnaethom ni ddadansoddi ein data ansawdd dŵr gan ddefnyddio dwy system dosbarthu gorchudd tir gwahanol, ond a oedd yn ategu ei gilydd. Mae Map Gorchudd Tir 2015 y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg yn dosbarthu tir y DU yn 21 dosbarth defnydd tir (e.e., coetiroedd llydanddail, glaswelltiroedd wedi eu gwella, corsydd, morfeydd heli), tra bod y set ddata Gorchudd Tir Amaethyddol ragfynegol yn dosbarthu'r tir yn bum gradd amaethyddol (Gradd 1 yw’r mwyaf cynhyrchiol a Gradd 5 yw'r lleiaf). Wrth ystyried y rhain gyda'i gilydd, mae'r systemau dosbarthu hyn yn rhoi dealltwriaeth lawer mwy trylwyr o sut mae'r tir yn effeithio ar ansawdd dŵr afon."
Dangosodd canlyniadau'r astudiaeth fod cysylltiadau cryf rhwng lefel asidedd y dŵr a chyfran y Glaswelltiroedd Asid - lle mae gweiriau a pherlysiau yn tyfu ar briddoedd lle mae diffyg calch, a rhwng lefelau nitrad a chyfran y Glaswelltiroedd wedi eu gwella - lle mae gweiriau sy’n tyfu’n gyflym ar briddoedd niwtral ffrwythlon. Roedd cyfran uwch o dir amaethyddol o ansawdd da (Graddau 1, 2, a 3a) yn gysylltiedig ag ansawdd dŵr gwaeth, yn benodol, crynodiadau mwy o nitrad a ffosfforws a chyfrif uwch o golifform bacteriol yn nŵr y nant. I'r gwrthwyneb, roedd gan ddalgylchoedd â chyfran uwch o dir amaethyddol o ansawdd gwael (Graddau 4 a 5) lefelau is o'r holl ddangosyddion ansawdd dŵr mesuredig, oedd yn arwydd o well ansawdd dŵr.
Yn ôl Dr Sopan Patil, Darlithydd mewn Modelu Dalgylch a chyd-awdur yr astudiaeth, mae ansawdd tir amaethyddol “yn cyfateb yn dda i ddwyster ffermio. Mae hyn oherwydd y gall tir o ansawdd da gynnal ystod ehangach o weithgareddau amaethyddol gyda rheolaeth tir dwysach. Mae canlyniadau ein hastudiaeth yn awgrymu y gellir defnyddio'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar fapiau dosbarthu defnydd/gorchudd tir yn amcangyfrif dibynadwy o ansawdd dŵr disgwyliedig dalgylchoedd gwledig. Mae ein data ansawdd dŵr ar draws dalgylchoedd Conwy a Chlwyd yn dangos bod gan safleoedd samplu nentydd yr Afon Clwyd, sydd â chyfran uwch o dir amaethyddol gradd uchel yn draenio tuag atynt, ansawdd dŵr gwaeth na safleoedd samplu yr Afon Conwy yn y rhan fwyaf o'r dangosyddion ansawdd dŵr mesuredig.â€
Cynhaliodd Elizabeth y gwaith o samplu ansawdd dŵr caeau yn rhan o ymchwil y prosiect Anrhydedd ar gyfer ei gradd BSc Daearyddiaeth. Cyd-oruchwyliwyd ei hymchwil gan Dr Sopan Patil a Mr Ian Harris yn yr Ysgol Gwyddorau Naturiol.
Dywedodd: “Fe wnaeth y cyfle i gwblhau fy ngwaith maes fy hun yn fy mlwyddyn olaf ehangu fy ngorwelion a helpu cadarnhau i mi fy mod i eisiau swydd yn y maes. Fe’m galluogodd i wthio fy hun a rhoi prawf ar yr hyn sy'n hysbys ar hyn o bryd am ansawdd dŵr afonydd yng Ngogledd Cymru."
Ers graddio, mae Elizabeth wedi ymuno â'r rhaglen raddedigion yn Thames Water ac mae bellach yn Rheolwr Gweithrediadau Maes ar gyfer Rhwydweithiau Gwastraff yn Rhanbarth Dyffryn Tafwys. Mae hyn yn golygu asesu’r llygredd carthion sy’n llifo i gyrsiau dŵr a monitro'r amgylchedd o amgylch asedau dŵr gwastraff y cwmni.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mawrth 2021